Mae John O Pritchard yn galw am adfer y seremoni
|
Mae Cymro o Ganada oedd yn arweinydd y Cymry tramor yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau wedi condemnio'r penderfyniad i ddileu seremoni Cymru a'r Byd yn y Brifwyl.
Mewn llythyr agored o'i gartref yn Vancouver, Canada, at Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol mae John O Pritchard wedi erfyn am adfer y seremoni.
Yn ei lythyr, sy'n cael ei gyhoeddi yn y rhifyn cyfredol o Yr Enfys, cylchgrawn Undeb Cymru a'r Byd, dywedodd ei fod yn pryderu "nad oes gan aelodau'r Cyngor amgyffred pa mor angerddol bwysig yw'r seremoni groeso i ni Gymry oddi cartref".
Wrth ymateb dywedodd Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, fod y penderfyniad i ddileu'r seremoni
wedi ei wneud gan Gyngor yr Eisteddfod "yn dilyn llawer o drafodaeth rhwng swyddogion Cymru a'r Byd a'r Eisteddfod".
Yng nghylchgrawn Yr Enfys hefyd mae cadeirydd Undeb Cymru a'r Byd, Deiniol Wyn Price, Cymro Cymraeg o Birmingham, wedi dweud mai penderfyniad y mae'r Undeb wedi gorfod ei dderbyn o'i anfodd oedd un yr Eisteddfod Genedlaethol i ddileu'r seremoni.
Ond dywedodd y byddai'r Undeb yn gwneud popeth posib - a hynny mewn cydweithrediad ag awdurdodau'r Eisteddfod - i i sicrhau croeso teilwng i ymwelwyr o dramor ar y Maes yn Abertawe.
Dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, wrth drafod y penderfyniad i ddileu'r seremoni: "Mae llawer o bobl yn teimlo fod teithio wedi dod mor hawdd...dyw'r seremoni ddim mor arwyddocaol bellach ac roedd hynny'n rhan o'r drafodaeth.
"Dwi'n teimlo ei fod (y seremoni) wedi cyflawni yr hyn roedd i fod i'w wneud yn ystod y blynyddoedd a fu," meddai.