BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2006, 10:35 GMT 11:35 UK
Poeni am greu ysbyty mawr
Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru
Adroddiad: Dyfodol i Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru?

Mae cyrff gwarchod wedi dweud fod cynlluniau creu ysbyty mawr fyddai'n gwasanaethu gorllewin Cymru yn codi mwy o gwestiynau nac atebion.

Dywedodd cynghorau iechyd cymuned yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro fod diffyg "manylion pwysig" yn yr argymhellion.

Byddai rhaid i gleifion deithio ymhellach, medden nhw, a byddai'r cyhoedd yn gwrthwynebu'r argymhellion yn gryf.

Nod y cynghorau iechyd cymuned yw canfod barn pobl am yr argymhellion yn ystod cyfnod ymgynghori o dri mis.

Dywedodd Siân Thomas, cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, fod yr argymhellion yn golygu'r newid mwyaf mewn gofal ysbyty yng ngorllewin Cymru ers sawl cenhedlaeth.

'Pryderu'

"Fe alla i weld bod angen gwasanaethau newydd ac ysbytai newydd arnon ni - Glangwili (Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru) yw'r ysbyty cyffredinol hynaf yng Nghymru.

"Ond rydyn ni'n pryderu am yr holl faterion eraill nad ydyn nhw'n cael eu hateb yn yr adroddiad hwn.

"Ble mae'n dweud yn yr adroddiad y bydd yn gwella'r gwasanaeth yn y gymuned ar gyfer y mân bethau sy'n mynd i gael eu trin yn y gymuned, fel mân ddamweiniau?

"Nid yw (yr adroddiad) yn ymdrin â'r posibilrwydd o deithio i'r ysbyty newydd.

"Does gennym ni ddim ffyrdd deuol i'r gorllewin o San Clêr - dyw daearyddiaeth yr ardal gyfan ddim yn addas ar gyfer un pwynt gofal canolog."

Dywedodd Ashley Warlow, prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Sir Benfro, ei bod yn rhy gynnar i ddweud a oedd yr adroddiad yn rhywbeth y gallai'r cyngor ei gefnogi ond ei bod yn ymddangos y byddai'r sir yn colli ei hunig ysbyty cyffredinol.

'Diffyg manylion'

"Ar yr olwg gyntaf, mae'n ymddangos mai taflen werthu fawr yw'r ddogfen sydd wedi cymryd dros flwyddyn i'w chreu ond yr hyn sy'n destun pryder yw bod diffyg manylion pwysig," meddai.

"... mae'n anodd, os nad yn amhosib, i mi i ddweud a fydd y cynlluniau hyn yn dderbyniol ac, yn benodol, a yw un ysbyty yn well i gleifion."

"Yn 1976 roedd ymgyrch leol enfawr i achub ein hysbyty yma yn Sir Benfro a'r gwasanaethau craidd yr oedd yn eu darparu.

"Mae'n debygol y bydd ymateb tebyg ymhlith y cyhoedd eto'r tro hwn."




HEFYD:
Ysbytai: 'Ad-drefnu anferth'
28 Maw 06 |  Newyddion
Adroddiad mamolaeth: Pryderon
07 Maw 06 |  Newyddion
Toriadau: Pryder ymgynghorwyr
20 Hyd 05 |  Newyddion
Staff ysbyty yn protestio
17 Hyd 05 |  Newyddion
Ysbyty anferth yn 'fwy effeithiol'
05 Hyd 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^