Bydd cyfnod ymgynghori o dri mis i drafod yr argymhellion yn yr adolygiad
|
Mae swyddogion iechyd wedi datgelu cynlluniau ad-drefnu ysbytai sy'n gwasanaethu miliwn o bobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Byddai un o'r argymhellion mwyaf dadleuol yn golygu cau Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.
A byddai hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer creu ysbyty mawr rhwng y ddwy dref.
Gallai gwasanaethau gofal arbenigol symud o Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty'r Tywysog Phillip yn Llanelli.
Mae cyfnod ymgynghori o dri mis i drafod argymhellion yr adolygiad yn dechrau ar Ebrill 3.
Eto mae cyrff gwarchod, sy'n poeni y byddai rhaid i gleifion deithio ymhellach, wedi dweud fod diffyg "manylion pwysig" yn yr adolygiad.
Un ysbyty
Mae'r adolygiad, wedi ei baratoi gan dîm o bobl o'r holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, yn effeithio ar ddyfodol ysbytai yn Abertawe.
Y bwriad yw creu un ysbyty yn lle'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn ysbytai Treforys a Singleton.
Byddai gwasanaethau yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn aros yr un fath i raddau helaeth a byddai cleifion ym Mhowys yn parhau i dderbyn gofal yn nifer o ysbytai'r de a'r gorllewin a thros y ffin yn Lloegr.
Gallai rhai gwasanaethau symud o Aberystwyth
|
Mae'r argymhellion yn trafod newid dros y 10 mlynedd nesaf, er bod yr adroddiad yn nodi fod rhaid penderfynu o fewn blwyddyn.
Byddai'r newid mwyaf yn hen sir Dyfed lle mae pedwar ysbyty mawr yn Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd ac Aberystwyth.
Mae'r bwrdd adolygu am un rhwydwaith ysbyty a gofal arbenigol wedi ei ganoli ar un safle.
Gallai hyn ddigwydd drwy wneud Caerfyrddin yn brif safle ysbyty cyffredinol rhanbarthol a fyddai â chyfrifoldeb dros ofal arbenigol fel llawdriniaethau brys a chymhleth.
Byddai ysbytai Llwynhelyg a Bronglais yn ysbytai rhanbarthol fyddai'n delio â gofal rheolaidd ond mae'n bosib na fyddai ymgynghorydd ymhob maes.
Gallai Llanelli fod yn ysbyty cyffredinol lleol a dod yn ganolfan ar gyfer triniaeth ddethol.
Arian ar gael
Yr ail ddewis fyddai creu ysbyty ar gyfer de Dyfed yn lle ysbytai Caerfyrddin a Hwlffordd mewn lleoliad rhwng y ddwy dref.
Byddai Ysbyty Bronglais yn rhan o'r rhwydwaith a byddai Ysbyty'r Tywysog Philip unwaith eto'n dod yn ysbyty cyffredinol lleol.
Mae'r tîm adolygu wedi eu sicrhau y byddai arian ar gael ar gyfer ysbyty newydd a byddai cynllun busnes yn cael ei lunio.
Newid arall fyddai'r dull o reoli - un ymddiriedolaeth yn cymryd rôl y tair ymddiriedolaeth bresennol yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Byddai'r byrddau iechyd lleol yn cael eu hannog i weithio yn nes at ei gilydd a byddai gofal iechyd gan feddygon teulu a gofal cymunedol.
ABERTAWE
Mae'r newidiadau yn Abertawe yn debyg o fod yn ddadleuol er bod y cynlluniau i gyfuno gwaith ysbytai Treforys a Singleton eisoes wedi eu crybwyll.
Gallai ysbyty newydd, ar safle newydd o bosibl, fod yn gyfrifol am waith y ddau ysbyty presennol a dal i gynnig gofal arbenigol i gleifion canolbarth a gorllewin Cymru.
BRO MORGANNWG
Mae'r newidiadau yn parhau ochr yn ochr â'r rhai gyflwynwyd yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot - sy'n gweithredu fel un uned mewn dau safle. Byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn canolbwyntio ar ofal mwy difrifol tra byddai Castell-nedd Port Talbot yn arbenigo mewn darparu llawdriniaethau dethol.
POWYS
Ar hyn o bryd does dim ysbyty cyffredinol yn y sir ond mae trigolion yn defnyddio gwasanaethau o'r sir. Byddai hyn yn parhau ond byddai newidiadau yng Nghaerfyrddin, Abertawe ac Aberystwyth yn effeithio ar gleifion Powys.