Mae Alexia Bos Solé yn annerch cyfarfod blynyddol y gymdeithas
|
Mae gan Gymru lawer o wersi i'w dysgu o brofiad Catalonia wrth adfer iaith - dyna neges gwraig o Sbaen i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddydd Sadwrn.
Alexia Bos Solé o Ganolfan Ymchwil Ciemen yn Barcelona oedd siaradwraig wadd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y gymdeithas yn Aberystwyth.
Roedd yn trafod llwyddiant ymgyrchoedd i sicrhau'r defnydd o'r Gatalaneg o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Ond mae hi'n pwysleisio bod cefnogaeth y llywodraeth yn "hanfodol bwysig" os am hybu a chynyddu'r defnydd o ieithoedd lleiafrifol.
Ers y 1970au mae Canolfan Ymchwil Ciemen wedi bod yn gweithio ym maes ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop a thu hwnt.
Dyma'r corff oedd yn gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo'r Datganiad Byd-Eang o Hawliau Ieithyddol a gyflwynwyd i UNESCO yn 1996.
Fframwaith
Mae Ms Solé yn cydlynu prosiect Mercator yn y sefydliad, prosiect sy'n casglu, cadw, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth am ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd.
Testun ei haraith i'r cyfarfod ddydd Sadwrn oedd 'Deddfwriaeth Iaith yn Gwneud Gwahaniaeth - Profiad Catalonia' a bydd yn disgrifio'r gwellhad yn sefyllfa'r Gatalaneg yn yr 20 mlynedd diwetha wrth i'r llywodraeth gryfhau statws cyfreithiol yr iaith frodorol.
"Mae'n hanfodol bwysig i gael fframwaith cyfreithiol cryf i hybu ac i amddiffyn hawliau ieithyddol siaradwyr ieithoedd lleiafrifol," meddai.
"Ond mae hefyd yn bwysig i siaradwyr wneud defnydd o'r cyfreithiau hynny. Mi fyddaf yn canolbwyntio ar rôl cymdeithas yn hynny o beth.
"Mae gyda ni ddeddf yng Nghatalonia gafodd ei phasio yn 1998 sydd yn arbennig o gryf yn y maes addysg lle mae gofyn i bob disgybl i allu darllen yr iaith i'r un lefel."
Eglurodd fod myfyrwyr yn gallu astudio pynciau fel mathemateg, er enghraifft, drwy'r Sbaeneg ond mae pethau'n cael eu hegluro yn Gatalaneg - dyna yw'r iaith i gyfathrebu ynddi.
"Yn y sector breifat wedyn, os ydych chi'n mynd i fwyty neu far i archebu bwyd neu ddiod mae'n rhaid i'r rhestr gwin a'r fwydlen fod yn Gatalaneg.
"Does dim gorfodi'r gweinyddion i siarad Catalaneg fodd bynnag ond mae'n gwarchod hawliau siaradwyr sy'n dymuno archebu bwyd neu ddiod yn Gatalaneg.
Newid cyfansoddiad
Mae diffyg cefnogaeth i iaith leiafrifol y Galiseg yng ngogledd orllewin Sbaen, meddai, wedi arwain at leihau'r nifer sy'n gallu ei siarad, tra bo sefyllfa ieithoedd lleiafrifol Gwald y Basg sydd yn cael cefnogaeth yn gwella.
Bydd Ms Solé yn cyfeirio at waith cyrff swyddogol eraill sy'n hybu'r iaith dramor ac o fewn cyd-destun diwylliannol, gwaith sy'n cael ei wneud diolch i arian gan y llywodraeth.
"O ein profiad ni, mae hi'n hanfodol bwysig bod y llywodraeth yn cefnogi ieithoedd ac yn hybu diddordeb," meddai.
Yn yr wythnos nesa mae disgwyl i dŷ isaf Senedd Sbaen gymeradwyo newid i gyfansoddiad y wlad yn cydnabod hawl Catalonia i alw ei hun yn genedl ac yn rhoi mwy o bwerau i'r ardal godi trethi.
Gan fod Deddf Llywodraeth Cymru ar fin atgyfnerthu pwerau deddfu'r Cynulliad Cenedlaethol, mae araith Ms Solé yn Aberystwyth yn gyfle i aelodau'r gymdeithas ddysgu sut y mae modd defnyddio cyfreithiau i hybu statws y Gymraeg a sicrhau hawliau siaradwyr.
"Mae ymgyrchwyr yn Catalonia cael llawer iawn mwy o lwyddiant na ni o ran gorfodi'r sector breifat i ddefnyddio'r Gatalenag," meddai swyddog polisi deddf iaith y gymdeithas Siân Howys.
"Wrth ddelio â'r cyhoedd mae'n rhaid i gwmnïau mawr a bach ddefnyddio'r iaith. Tydi ein deddf ni ddim yn cyffwrdd o gwbwl â'r sector breifat."
Roedd cyfarfod cyffredinol y gymdeithas yn trafod ymgyrch yr aelodau am ddeddf iaith newydd yng Nghymru a meysydd eraill fel addysg, tai a chynllunio.