Mae'r gronfa ar gael ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg
|
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn lansio cronfa genedlaethol o dermau Cymraeg ddydd Iau.
Mae'r gronfa ar gael i bawb ei defnyddio yn rhad ac am ddim ar wefan y bwrdd.
Y bwriad yw helpu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ymhob agwedd o fywyd ac mae'r gronfa yn cynnig termau yn ymwneud â gwahanol feysydd.
Y gobaith yw y bydd hynny'n lleihau ansicrwydd pobl wrth ddefnyddio'r Gymraeg.
"Mae'r gronfa yn ddatblygiad arwyddocaol iawn i ddefnyddwyr y Gymraeg," meddai Meri Huws, cadeirydd Bwrdd yr Iaith.
"Ry'n ni'n mawr obeithio bydd bodolaeth y gronfa yn magu hyder ymysg pobl i fynd ati i ddefnyddio'r iaith mewn meysydd newydd.
"Bydd hyn yn y pendraw yn arwain at normaleiddio'r defnydd o'r iaith."
Mae modd llwytho'r termau i'w defnyddio mewn meddalwedd cof cyfieithu.
"Mae'r gronfa yn arloesol ac yn unigryw yn fyd-eang gan fod modd llwytho termau i lawr i'ch cyfrifiadur," meddai Ms Huws.
'Arf pwysig'
Mae'r gronfa yn cynnwys termau o fyd technoleg gwybodaeth, adwerthu, cyllid ac addysg.
Cafodd Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru Bangor ei gomisiynu i'w llunio ac fe fu Tîm Safoni Cydnabyddedig Bwrdd yr Iaith yn goruchwylio'r gwaith o safoni'r termau.
Dywed y bwrdd mai prif gryfder y gronfa yw ei symlrwydd ac mae modd chwilio am dermau unigol neu gyfuniad o dermau.
Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn y Cynulliad, y bydd y gronfa yn "cynnig cymorth parod" wrth i eiriau a thermau newydd o bosib achosi ansicrwydd.
"Rydyn ni eisoes wedi gweld gwerth cronfa derminoleg yn dilyn lansio cronfa TermCymru, cronfa derminoleg Gwasanaeth Cyfieithu'r Llywodraeth, sydd wedi ennill ei phlwyf ymhlith cyfieithwyr a gweithwyr dwyieithog," meddai.
"Bydd y gronfa hon eto yn arf pwysig wrth ehangu'r gwasanaeth a'r adnoddau sydd ar gael i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg ac mae'n gwireddu un o amcanion Iaith Pawb."
Mae Bwrdd yr Iaith yn awyddus i gyrff eraill gynnwys eu termau safonol yn y Gronfa Genedlaethol er mwyn datblygu'r adnodd ymhellach.