BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Mawrth 2006, 08:34 GMT
Iaith 'yn cyrraedd oes fodern'
Peiriant gwirio sillafu Gaeleg
Cost y peiriant oedd £105,500
Mae peiriant gwirio sillafu Gaeleg, sy'n cynnwys mwy na 500,000 o eiriau, wedi cael ei lansio.

Nod y peiriant ar-lein yw helpu siaradwyr a dysgwyr a sicrhau fod pawb yn cyrraedd safon gyffredinol.

Bu PrÚiseact an Dearbhair wrthi am dair blynedd a'r gost oedd £105,500.

Menter Iaith Ewrop gynhyrchodd y peiriant wrth gydweithio ‚ staff Prifysgol Dinas Dulyn a Sefydliad Ieithyddiaeth Iwerddon oedd wedi dyfeisio peiriant ar gyfer yr iaith Wyddeleg.

'Cyfoethog'

"Mae gan yr iaith Aeleg hanes cyfoethog ac rydym am iddi gael dyfodol llewyrchus," meddai Gweinidog Addysg Yr Alban, Peter Peacock.

"Ac mae lansio'r peiriant yn profi, os oes angen prawf, fod hon yn iaith fyw.

"Ar gyfer y nifer gynyddol o ddysgwyr a siaradwyr, rwy'n siwr y bydd y peiriant yn rhan bwysig o'u bywyd pob-dydd."

Bydd modd lawrlwytho y manylion o wefan gŗidhlig air-loidhne.

"Mae hwn yn gymorth i'r gymuned Aeleg nid yn rhywbeth gorfodol," meddai cyfarwyddwr y prosiect Clive Leo McNeir.

"Bydd y flwyddyn gynta yn gyfnod ymgynghori. Rydyn ni'n gwahodd pawb i fod yn rhan o'r prosiect.

"Carem ni wybod am eiriau ychwanegol ac unrhyw gamgymeriadau.

"Ni all cronfa ddata o'r maint hwn fod yn berffaith."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^