Mae Geraint Talfan Davies wedi dweud na fydd yn ailymgeisio am y swydd
|
Mae Gweinidog Diwylliant y Cynulliad, Alun Pugh, wedi cael cais i alw ar gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru i aros yn ei swydd.
Dywedodd cyn gadeirydd y cyngor, Sybil Crouch, y dylai Mr Pugh lyncu ei falchder ynglŷn â Geraint Talfan Davies.
Mae rhai wedi lleisio pryderon am nad yw Llywodraeth y Cynulliad wedi penodi olynydd i'r swydd gan fod rhaid i'r cyngor amddiffyn ei statws mewn adolygiad o'r celfyddydau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad y byddai cyhoeddiad ar y trefniadau trawsnewidiol yn cael ei wneud "yn fuan iawn".
Mae'n rhaid i Weinidog Diwylliant y Cynulliad asesu'r gadeiryddiaeth ar ôl cyfnod o dair blynedd.
Fis Ionawr ysgrifennodd Cyngor Celfyddydau Cymru at Brif Weinidog y Cynulliad yn mynegi pryder am y posibilrwydd o beidio ag ailbenodi Geraint Talfan Davies fel cadeirydd.
Wrth ymateb i'r pryderon dywedodd Mr Pugh bryd hynny nad oedd "neb wedi ei ddiswyddo" ac y byddai "swydd y cadeirydd yn cael ei hysbysebu yn y gwanwyn".
'Dim dewis'
Yn ddiweddarach dywedodd Mr Talfan Davies nad oes ganddo unrhyw fwriad o ailymgeisio am y swydd pan ddaw ei dymor i ben.
Mae rhai swyddogion yn y byd celfyddydol wedi awgrymu wrth BBC Cymru y gallai Mr Talfan Davies gael cais gan Mr Pugh i aros yn gadeirydd yn ystod y cyfnod o newid. Gwrthododd Mr Talfan Davies wneud sylw ar hynny.
Dywedodd Ms Crouch: "Nawr bod y cynulliad wedi methu â hysbysebu mewn da bryd ar gyfer y cadeirydd newydd does dim dewis arall mewn gwirionedd ond i'r gweinidog lyncu ei falchder a gofyn i Geraint Talfan Davies a fyddai'n barod i aros.
"Dwi'n meddwl fod Geraint yn credu digon yng nghyngor y celfyddydau i roi ei falchder i'r naill ochr efallai a derbyn hynny os yw'n cael ei gynnig," meddai.
Dywedodd aelodau o Gyngor y Celfyddydau wrth raglen The Politics Show BBC Cymru eu bod yn pryderu nad yw'r broses o ganfod cadeirydd newydd i'r cyngor yn digwydd ar hyn o bryd.
"Mae peidio â chael cadeirydd gydag arbenigedd yn y cyfnod hwn yn niweidiol iawn i Gyngor y Celfyddydau fel corff ac yn bwysicach i'r gymuned gelfyddydol gyfan," meddai Meg Elis, awdures a chyfieithydd o'r Waunfawr ger Caernarfon ac aelod o'r cyngor.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Owen John Thomas: "Ni fydd neb wrth y llyw yng Nghyngor y Celfyddydau pan fydd yr adolygiad yn dechrau.
"Ar ben hynny mae'r gweinidog newydd fynd i Gemau'r Gymanwlad yn Melbourne a fydd neb yma."
'Gwanhau'
Dywedodd Chris Ryde o Gymdeithas y Celfyddydau Perfformio yng Nghymru: "Y ffaith yw fe fydd (y cyngor) yn cael ei wanhau oherwydd mae Geraint Talfan Davies wedi buddsoddi llawer o'i amser ei hun, llawer ohono'n ddi-ddal, yn ailsefydlu hygrededd y corff dros y tair blynedd diwethaf.
"A dwi'n credu mai'r hyn allai fod yn digwydd yw bod Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio'r ffaith na fydd ef a swyddogion allweddol eraill mewn grym i helpu i wthio eu hagenda eu hunain, sef cymryd mwy o reolaeth o'r hyn mae'r cyngor yn ei wneud a mynd â mwy o'i swyddogaethau i'r cynulliad."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad y byddai cyhoeddiad ar y trefniadau trawsnewidiol yn cael ei wneud "yn fuan iawn".
Mae Mr Pugh wedi gwrthod honiadau fod mwy o ymyrraeth wleidyddol ym maes y celfyddydau yng Nghymru.
Mae'r gweinidog wedi dadlau fod angen sicrhau fod gan fwy o bobl mewn ardaloedd difreintiedig fynediad i'r celfyddydau a dywedodd ei fod eisiau cadeirydd a fyddai'n gwneud hynny.