BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 18 Mawrth 2006, 14:00 GMT
Triwantiaeth: Gwahardd rhieni
Dyn yn ysmygu mewn tafarn (cyffredinol)
Mae'r rhieni wedi eu gwahardd rhag mynd i'r dafarn am dri mis

Mae cwpwl wedi eu gwahardd rhag mynd am nosweithiau allan am dri mis er mwyn sicrhau eu bod yn anfon eu mab i'r ysgol.

Clywodd ynadon Castell-nedd fod y rhieni, na ellir eu henwi, yn mynd i'r dafarn ac i chwarae bingo gan aros yn y gwely'n hwyr yn y bore yn hytrach nag anfon y bachgen 16 oed i'r ysgol.

Gorchmynnodd y llys y dylai'r ddau gael eu tagio yn electronig ac na ddylen nhw fynd allan rhwng 1900 yr hwyr a 0700 y bore.

Croesawodd swyddogion addysg y ddedfryd ond mae wedi ei beirniadu gan y rhai sy'n ymgyrchu dros ddiwygio'r deddfau cosbi.

Cafodd y cyrffyw ei osod wedi i swyddogion addysg ddwyn yr achos am na lwyddodd y bachgen fynd i'r ysgol rhwng Medi a Thachwedd ac yntau ym mlwyddyn ei arholiadau TGAU.

Roedd dau erlyniad blaenorol wedi arwain at ddirwyon a rhybudd i'r rhieni ond roedd y bachgen yn dal i beidio mynd i'r ysgol.

Clywodd y llys fod y rhieni yn mynd allan yn rheolaidd gyda'r nos i'w tafarn leol a'r neuadd fingo a'u bod yn aros yn y gwely'n hwyr yn ystod y dydd yn hytrach na mynd â'u mab i'r ysgol.

'Cefnogi'

Ymddangosodd y cwpl, y ddau yn 52 oed, gerbron ynadon fis diwethaf ac fe wnaethon nhw gyfaddef cyhuddiad ar y cyd o wybod fod eu mab 16-oed yn absennol o'r ysgol heb gyfiawnhad rhesymol.

Mae prifathro'r bachgen wedi cefnogi'r ddedfryd: "Dwi'n cefnogi unrhyw beth sy'n sicrhau fod plant yn dod yn ôl i'r ysgol - hyd yn oed os yw'n golygu fod rhieni yn colli eu nosweithiau allan.

"Os nad yw plant yn yr ysgol fyddan nhw ddim yn dysgu ac fe allai effeithio ar weddill eu bywydau," meddai.

"Mae mynd i'r ysgol mor hanfodol i blant fel bod rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i sicrhau eu bod yn bresennol."

Fe wnaeth y llys orchymyn sy'n datgan na ddylai'r ysgol gael ei henwi.

Dywedodd y pennaeth fod gan rieni gyfrifoldeb i sicrhau fod eu plentyn yn mynd i'r gwersi, ond yn yr achos hwn roedden nhw wedi anwybyddu galwadau ffôn a llythyrau am flwyddyn.

"Fe fyddwn i'n cefnogi unrhyw weithredu i wneud rhieni'n ymwybodol o'u cyfrifoldebau gan gynnwys tagio electronig," meddai.

'Eithaf anarferol'

"Rydyn ni'n ceisio gweithio gyda rhieni i ymdrin â thriwantiaeth, ac os nad yw plant yn bresennol fe fyddwn ni'n cysylltu â'r rhieni i ddarganfod pam.

"Yn anffodus mae achlysuron pan nad yw hyn yn ddigon ac mae cyrffyw a dirwyon yn cael eu rhoi gan y llys."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad ei fod yn gwybod fod magu plant yn dasg fawr a'i fod yn rhoi pwyslais ar fesurau cefnogi gan gynnwys "cytundebau rhieni".

"Ond rydyn ni'n cydnabod y gallai fod angen mesurau cyfreithiol yn anffodus mewn rhai achosion ar gyfer rhieni i sicrhau nad yw eu plant yn colli eu haddysg ac yn difetha eu cyfleon mewn bywyd yn y dyfodol."

Dywedodd Dick Whitfield, cadeirydd Cynghrair Howard dros Ddiwygio'r Deddfau Cosbi, fod tagio rhieni yn "eithaf anarferol".

"Nid er mwyn hyn y cafodd tagiau electronig eu cynllunio. Nid cosbi rhieni yw'r ffordd orau o gael plant i'r ysgol," meddai.

Dywedodd y gallai yn y pendraw "gynyddu tensiynau a thrafferthion yn y cartref".

"Er mwyn ymdrin â thriwantiaeth mae'n rhaid canfod pam yn union fod y plentyn yn colli'r ysgol ac edrych ar y problemau ehangach o fewn y teulu," meddai.




HEFYD:
Plant absennol: Methu targed
28 Hyd 04 |  Newyddion
'O blaid carcharu' am driwantiaeth
21 Mai 04 |  Newyddion
Nifer o blant yn chwarae triwant
21 Hyd 03 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^