Mae 'na ddisgwyl i'r canfyddiad gael ei gadw o dan wydr
|
Mae'r gweithwyr sy'n ailddatblygu hen waith dur ger Wrecsam wedi canfod fforest ffosil y credir ei bod yn dyddio'n ôl 300 miliwn o flynyddoedd.
Bellach mae daearegwyr yn goruchwylio'r gwaith o gloddio ar y safle sy'n 50 medr o hyd ar hen waith dur Brymbo.
Mae'r fforest yn dyddio o gyfnod ymhell cyn oes y dinasor, cyfnod pan oedd Cymru yn lle poeth a thrymaidd ar y cyhydedd.
Y gobaith ydi y bydd y ffosil yn cael ei gadw fel atyniad treftadaeth ochr yn ochr â thai newydd a diwydiant.
Mae'r ffosil hefyd yn dyddio o Oes Garbonifferaidd neu Oes y Glo, cyn bod sôn am blanhigion.
Fe fyddai Cymru wedi cynnwys llawer o fforestydd trofannol a gafodd eu cywasgu gan dyfiant darfodus i greu'r glo.
Canfyddiad anghyffredin
Mae datblygwyr safle Parkhill yn cadw'r canfyddiad o dan orchudd plastig ond gobaith y daearegwyr yn y tymor hir ydi i'w ddiogelu o dan domen wydr ac adeiladu safle treftadaeth o'i amgylch.
Doedd y coed ddim fel coed yr ydym ni'n gyfarwydd â nhw ond yn hytrach yn fwsogl anferth a oedd cymaint â 40 metr.
Dywedodd Dr Jacqui Malpas, sy'n goruchwylio'r gwaith, bod y canfyddiad yn un anghyffredin iawn.
Mae daearegwyr yn nodi pob canfyddiad ar y safle
|
"Hyd yma mae 20 o'r coed wedi cael eu canfod ac mae eraill wedi cael eu cadw oherwydd y pryder y bydd y tywydd yn effeithio arnyn nhw," meddai.
"Mae'n beth prin iawn i ganfod y coed ffosil yma.
"Y gobaith ydi i wneud nodyn manwl o'r canfyddiadau ar y safle.
"Mae 'na ras yn erbyn amser i ddiogelu'r safle gan fod dŵr glaw yn ei beryglu."
Mae 'na dair fforest debyg arall, yn Yr Alban, Dorset a Sheffield.
Dywedodd mai'r niferoedd sydd wedi eu canfod yn Wrecsam sy'n ei wneud mor ddiddorol.
Un syniad ydi i osod planhigion modern ar yr un safle o dan y gorchudd gwydr ac ychwanegodd Dr Malpas bod y potensial yn wych ar gyfer datblygu'r safle.