BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Mawrth 2006, 19:56 GMT
Cyfarfod brys ad-drefnu ysbytai
Wrecsam Maelor (top) ac Ysbyty Glan Clwyd (chwith) ac Ysbyty Gwynedd, Bangor
Fe fydd y gwasanaethau arbenigol ym mhrif ysbytai'r gogledd

Dywed cynghorwyr eu bod yn "siomedig" ar ôl cyfarfod gyda swyddogion iechyd ynghyd am gyfarfod brys i drafod dyfodol Ysbyty Llandudno.

Mae trigolion lleol yn bryderus am gynlluniau a ellir cael eu gweld fel israddio adnoddau.

Dywedodd arweinwyr cyngor Conwy eu bod wedi cael gwybod y bydd uned gofal coronaidd a'r uned triniaethau cancer y frest yn cael ei drosglwyddo i ysbyty arall.

Mae swyddogion iechyd wedi dweud y bydd yr ysbyty yn cadw nifer o wasanaethau ond bod yr adolygiad diweddar yn canolbwyntio ar waith arbenigol a fydd yn cael ei ganoli yn nhri phrif ysbyty'r gogledd.

Dywedodd y cynghorydd Ronnie Hughes, cadeirydd pwyllgor archwilio Conwy, a alwodd y cyfarfod gyda chyfarwyddwr cynllun yr ymddiriedolaeth iechyd sy'n gyfrifol am adolygu ysbytai'r gogledd, ei fod yn "siomedig" ar ôl y cyfarfod.

Dywedodd yn ddiweddarach ei fod yn bryderus bod yr uned gofal coronaidd yn cau a'r uned triniaethau canser y frest yn symud.

"Ddwy flynedd yn ôl roedd yr uned canser y frest y gorau yng Nghymru, os nad Prydain, ac felly dydw i ddim yn deall pam eu bod am ei symud," meddai Mr Hughes, sy'n cynrychioli Llandudno ar y cyngor.

Dywedodd y bydd y bobl leol yn gwneud yn si?r bod eu llais yn cael eu clywed ac yn "boddi'r" swyddogion iechyd gyda chwestiynau yn ystod y cyfnod ymgynghorol.

Dywedodd cyfarwyddwr cynllun yr adolygiad, Andrew Butters, bod y newidiadau arfaethedig yn Llandudno yn rhyddhau hyd at £23m i wella adeiladau'r gwasanaeth iechyd drwy ogledd Cymru.

Fe fydd yr adolygiad hefyd yn gweld Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy ac Ysbyty Abergele yn cau.

Sgiliau arbenigol

"Dyma ddarlun ar gyfer dyfodol ein gofal iechyd yng ngogledd Cymru am yr 20 mlynedd nesaf," meddai Mr Butters.

Fe fydd gofal iechyd y dyfodol yn canolbwyntio ar gadw cleifion allan o ysbytai gorau posib a chanolbwyntio ar reolau amgylchiadau yn y cartref.

Fe fydd gofal arbenigol fel triniaethau'r frest, gofal coronaidd a gwasanaeth adsefydlu strôc yn cael eu lleoli yn Ysbyty Gwynedd Bangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Wrecsam Maelor.

Mae gan Ysbyty Llandudno "ddyfodol" yn ôl Mr Butters ac fe fydd yn cadw "nifer sylweddol o wasanaethau'r gwasanaeth iechyd".

Fe fydd yr adolygiad yn cael ei drafod yn gyhoeddus ar Ebrill 3 ac fe fydd y mudiadau a'r cyrff perthnasol yn cael cyflwyno sylwadau erbyn Mehefin 26.

Mae'r ad-drefnu yn effeithio ar y chwe bwrdd iechyd lleol a'r tair ymddiriedolaeth iechyd ar hyd y gogledd.




HEFYD:
Cyfarfod i adolygu cynllun iechyd
14 Maw 06 |  Newyddion
Adolygiad: Dau ysbyty i gau?
12 Maw 06 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^