Matthew Rhys sy'n lleisio cymeriad Spider-man yn Gymraeg
|
Mae un o gymeriadau cartŵn mwya poblogaidd y comic Marvel ar fin dod yn fyw ar y sgrîn fach a hynny yn y Gymraeg.
Mor boblogaidd yw cartwnau Spider-man hyd a lled y byd nes y mae hyd yn oed wedi bod yn destun sawl ffilm Hollywood.
Fe fydd pennod gyntaf fersiwn Gymraeg y cartŵn i'w weld ar S4C ym mis Ebrill a'r actor Matthew Rhys sy'n lleisio cymeriad Peter Parker sy'n trawsnewid i'r arwr Spider-man.
Y gobaith ydi y bydd Spider-man yr un mor boblogaidd ar aelwydydd plant Cymru ag y mae'r ffilmiau a rhifynnau o Marvel wedi bod ar draws y byd.
Mae'r cartwnau Spider-man, sydd i'w gweld ar sianel deledu Nickelodeon, wedi cael eu haddasu ar gyfer S4C gan y cwmni teledu Cwmni Da o Gaernarfon.
 |
Roeddwn i bob amser eisiau masg Spider-man ond yn anffodus ni chefais i un erioed
|
Ymddangosodd Spider-man yn gyntaf ym 1962 yn y llyfr comic, Amazin Fantasy, gyda chlawr wedi ei ddarlunio gan Jack Kirby a Ditko.
Ers hynny datblygodd yn un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y byd, yr arch arwr sydd yn hawdd i'w adnabod.
Dros y blynyddoedd mae wedi ymddangos mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys nifer o gyfresi wedi eu hanimeiddio, stribedi cartŵn dyddiol ac ar y Sul, a dwy ffilm hynod lwyddiannus.
Siom
Mae disgwyl i'r drydedd ffilm gael ei rhyddhau yn 2007.
Yr actor o Gaerdydd, Matthew Rhys, sy'n rhoi llais i arwr y masg.
"Rwy'n hapus iawn i leisio cymeriad mor boblogaidd," meddai'r actor a fydd yn ymddangos gyda Gwyneth Paltrow cyn diwedd y flwyddyn yn y ffilm Love and Other Disasters.
Fe fydd y cartŵn Spider-man i'w weld ar Planed Plant
|
"Rwy'n ffan enfawr o Spider-man, rydw i wedi gwylio pob pennod ers oeddwn yn blentyn ac roeddwn i bob amser eisiau masg Spider-man ond yn anffodus ni chefais i un erioed!
"Ond, dwi wedi dod dros y siom hynny o'r diwedd wrth gael fy newis i fod yn lais brenin yr arch arwyr, a hynny yn fy iaith gyntaf."
Dywdodd Siwan Jobbins, Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C, bod poblogrwydd Spider-man wedi parhau dros bum degawd.
"Mae'n mynd o nerth i nerth," meddai.
"Fe fydd y gyfres gartŵn Gymraeg yma yn siwr o fod yn boblogaidd gyda phlant o bob oed - a rhai oedolion."
Gall Aunt May ymfalchïo felly bod ei nai, Peter Parker, wedi ychwanegu sgil arall i'r llu sydd ganddo eisioes, sef siarad Cymraeg.....
Spider-man, Planed Plant, S4C, dydd Iau, Ebrill 13.