Plant ysgol yn dysgu iaith mewn modd ymarferol
|
Yn ôl ymchwil gan BBC Cymru mae llai a llai o ddisgyblion Cymru yn dewis astudio ieithoedd tramor modern.
Mae'n debyg bod nifer y bobl ifanc sy'n astudio ieithoedd tramor modern fel rhan o'u cyrsiau TGAU, hefyd wedi gostwng fesul blwyddyn ers 1996.
Yn ôl yr ymchwil mae disgyblion Cymru yn llai tebygol o astudio'r pynciau yma ar gyfer arholiadau TGAU na disgyblion mewn rhannau eraill o Brydain.
O'r rhai sy'n eistedd yr arholiad mae nifer sy'n pasio yn gostwng.
Yn 1996 roedd 46% o ddisgyblion uwchradd yn astudio ieithoedd tramor modern hyd at arholiadau TGAU.
Ond mae'r ffigyrau diweddara yn dangos fod y ganran wedi cwympo i 32% o'i gymharu â 68% yn Lloegr.
Ac mae'r nifer sy'n pasio arholiadau TGAU hyd yn oed yn llai gyda dim ond tua 25% o'r rhai sy'n sefyll yr arholiad sy'n llwyddo i ennill gradd A i C.
Mae disgyblion yng Nghymru yn gallu dewis gollwng ieithoedd tramor pan maen nhw'n 14 oed ac mae mwy a mwy yn dewis gwneud hynny.
Un sydd yn pryderu am y sefyllfa yw Richard Parsons o Cilt Cymru,
y Ganolfan Wybodaeth ac Ymchwil ar Ddysgu Ieithoedd.
Cystadlu gyda gweddill Ewrop
"Mae nifer wedi bod yn mynd i lawr ers rhyw 10 mlynedd bellach.
"Yng ngwledydd Ewrop mae pawb yn astudio o leiaf un iaith dramor tan 16 oed neu 18 oed ac rydym yn cystadlu gyda hynny.
"Yn Yr Alban mae pobl yn dechrau astudio iaith dramor yn yr ysgol gynradd ac mae ganddyn nhw fantais.
"Mae Cymru ar ei hôl ac mae angen i ni ddal i fyny."
Mae nifer o ysgolion yn dysgu o leiaf un iaith modern
|
Un maes y mae medru iaith dramor o fantais ynddo yw byd busnes.
Mae'r CBI o'r farn y dylai ysgolion gynnig ieithoedd i ddisgyblion sy'n adlewyrchu amgylchiadau economaidd y byd, gan gynnwys Mandarin a Sbaeneg.
Mae Huw Roberts yn gynghorydd Datblygu Allforio gyda Masnach Cymru Ryngwladol.
Dywed bod angen addasu'r cyrsiau sydd ar gael i ymateb i'r hinsawdd economaidd sy'n bodoli.
"Mae'r byd busnes yn newid. Blynedde yn ôl prin oedd rhaid delio gyda gwledydd fel China.
"Ond yn y 10 mlynedd diwethaf mae lot mwy o ddatblygiadau gyda chwmnïau o Brydain a Chymru yn delio gyda China ac mae'n bwysig creu'r wybodaeth i bobl ifanc i ddysgu ieithoedd newydd."
Oedolion yn dysgu
Er nad oes gan Lywodraeth y Cynulliad gynlluniau i orfodi disgyblion i astudio ieithoedd tramor, maen nhw'n cydnabod fod 'na broblem.
Maen nhw wrthi'n rhedeg cynlluniau peilot, gan roi profiad i ddisgyblion cynradd o ieithoedd tramor, yn y gobaith y byddan nhw yn cael blas ar y dysgu.
Ond tra bod y nifer o Gymry ifanc sy'n dysgu ieithoedd tramor yn cwympo, mae nifer cynyddol o oedolion yn dysgu mewn dosbarthiadau nos.
Mae 'na ddiddordeb mawr mewn cyrsiau Ffrangeg yn y brifddinas yn ôl Catherine Chabert, darlithydd cydlynol yng nghanolfan ddysgu gydol oes, Prifysgol Caerdydd.
"Rydan ni wedi gweld cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf ac un ffordd o fesur hyn ydi ein bod yn gorfod cynnig cyrsiau newydd drwy gydol y flwyddyn.
"Does dim rhaid aros tan fis Medi i gychwyn ar gwrs mae modd cychwyn cwrs ym mis Ionawr neu fis Ebrill felly dor rydan ni wedi gweld cynnydd yn y nifer sy'n dysgu."
Nid da lle gellir gwell felly yw'r adroddiad diwedd tymor i ddisgyblion uwchradd Cymru ym maes ieithoedd modern.