Fe wnaeth French feio'r digwyddiad ar ei ffrindiau
|
Mae dyn wnaeth gymryd cwningen o ardal gaeedig mewn sŵ cyn ei daflu at aligator yn wynebu carchar.
Cafwyd Damien French, 20 oed, o Fae Colwyn, yn euog o greulondeb i gwningen yn Sŵ Mynydd Cymru yn y dref ym mis Hydref.
Clywodd ynadon Llandudno bod French wedi cymryd y gwningen o'r ardal sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer rhoi cyfle i blant roi mwythau i anifeiliaid.
Honnodd French mai cyfaill oedd gydag e ar y pryd oedd yn gyfrifol.
Dywedodd yr erlyniad fod French, gyda dau lanc arall, wedi cymryd y gwningen o'i lloches a'i thaflu at ddau aligator.
Fe gymrodd un o'r ddau aligator, Albert, yr anifail a'i ladd ond wnaeth o ddim ei fwyta.
Clywodd y llys bod merch ifanc wedi mynd i mewn i dŷ'r aligator a gofyn i'r tri: "A'i cwningen ydi hwnna?"
Honnir bod y tri wedi dechrau chwerthin wrth i un ddweud: "Dyna oedd - roedd yn rhedeg o gwmpas 10 munud yn ôl."
Dywedodd un o'r bechgyn oedd gyda French ar y pryd, ac sydd bellach yn 16-oed, wrth y llys: "Roeddem ni yn nhŷ'r aligator ac fe ddywedodd Damien mae 'o'n edrych yn llwglyd'.
Beio'i ffrindiau
"Fe aeth i le arall, dringo a phlygu ymlaen i ddal un o'r cwningod wrth ei chlustiau.
"Dywedodd ei fod am ei thaflu at yr aligator ac fe ddywedes i wrtho am beidio ond fe wnaeth."
Dywedodd French yn y llys ei fod yn teimlo'n euog am farwolaeth y gwningen am ei fod yn bresennol ar y pryd ond nad oedd yn gyfrifol.
Fe welodd ferch ifanc y gwningen yn y gawell gyda'r aligator
|
Fe feiodd ei ffrind 14-oed, na ellir ei enwi, gan ddweud mai fe oedd wedi cymryd y gwningen a'i thaflu at yr aligator.
"Roeddem i gyd yn chwerthin am y peth. Roeddwn i'n chwerthin oherwydd y sioc.
"Roeddwn i'n meddwl bod y sefyllfa yn ddoniol ar y pryd ond ddim wrth edrych yn ôl. Doedd o ddim yn beth neis i ddigwydd.
"Dwi'n teimlo'n euog am fy mod i yno gyda'r gweddill ond wnes i ddim cyffwrdd â'r gwningen."
Ond mae ei ddau ffrind yn ei feio am y digwyddiad gan honni ei fod yn flin gyda'r gwningen am iddi farcio ei siaced newydd.
Clywodd y llys bod y bechgyn, ar ôl gadael tŷ'r aligator, wedi tanio a thaflu sigarét at fwnci ac fe gafodd French ei weld yn ymestyn i mewn i gawell llwynog Arctig.
Roedd French wedi cyfaddef eisoes ei fod wedi torri dwy ffenest siop ym Mae Colwyn yn oriau man y bore ar ôl y digwyddiad yn y sŵ.
Dadleuodd cyfreithiwr yr amddiffyniad, Chris Dawson, na allai'r llys fod yn si?r ei fod wedi talu'r gwningen.
Dywedodd cadeirydd y fainc, Alan Roberts: "Mae carchar yn edrych yn opsiwn tebygol iawn."
Fe fydd French yn cael ei ddedfrydu ar Ebrill 5.
Dywedodd cyfarwyddwr gweinyddol y sŵ, Chris Jackson, ar ôl yr achos ei fod yn fodlon gyda'r ddedfryd a'r modd y cafodd yr achos ei ddilyn gan yr heddlu a gan y gwasanaeth erlyniadau.
"Mae hyn yn wers i unrhyw un sy'n ymosod ar anifeiliaid diamddiffyn," ychwanegodd.