BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 13 Awst 2006, 16:06 GMT 17:06 UK
Diogelwch ychwanegol cyn gm
Stadiwm y Mileniwm
Cafodd gefnogwyr eu harchwilio cyn cael mynediad i'r stadiwm
Bu mwy o heddlu ar strydoedd y brifddinas ddydd Sul wrth i bencampwriaeth y Darian Gymunedol gael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.

Pwysleisiodd rheolwyr y stadiwm nad oedd yna fygythiad terfysgol penodol adeg y gm rhwng Lerpwl a Chelsea. Enillodd Lerpwl o 2 - 1.

Ond roedden nhw am fod yn wyliadwrus wedi'r cynllun honedig i ffrwydro dyfeisiadau ar awyrennau yn ystod yr wythnos.

Roedd rheolwyr wedi rhybuddio cefnogwyr i ddisgwyl peth oedi ar y ffordd i mewn i'r stadiwm.

Ers y cynllwyn ddydd Iau mae mesurau diogelwch llym wedi bod mewn meysydd awyr ar draws Prydain, gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.

Nid oes bygythiad terfysgol penodol i dde Cymru, Caerdydd, neu Stadiwm y Mileniwm - ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus
Prif Arolygydd Bob Evans

Yn l y llywodraeth mae'r perygl yn dal i fod yn "ddifrifol" - sef y lefel uchaf posib ac mae bagiau llaw wedi cael eu gwahardd o bob awyren sy'n gadael Prydain.

Ychawnegodd swyddogion Stadiwm y Mileniwm eu bod wedi cydweithio'n agos gyda'r Gymdeithas Bl-droed a Heddlu De Cymru cyn y gm ddydd Sul.

Dywedodd y Prif Arolygydd Bob Evans o Heddlu De Cymru: "Oherwydd y dyddiau diwethaf, diogelwch yw'r prif beth.

"Nid oes bygythiad terfysgol penodol i dde Cymru, Caerdydd, neu Stadiwm y Mileniwm - ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus.

Cafodd meysydd parcio ychwanegol eu darparu i gefnogwyr ac fe gafodd y ffyrdd o amgylch Stadiwm y Mileniwm eu cau i yrwyr cyn y gm.


HEFYD
Cyhoeddi cyngor i deithwyr
10 Awst 06 |  Newyddion
Rhybudd: Mesurau llym mewn grym
10 Awst 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^