Cafodd pentref Capel Celyn ei foddi er mwyn creu'r argae
|
Mae rhaglen ddogfen newydd yn datgelu nad oedd angen boddi pentref a chymuned Capel Celyn i greu argae Tryweryn.
Dyna'r canlyniad syfrdanol sy'n cael ei ddatgelu yn rhaglen Drowning a Village cafodd ei darlledu nos Iau ar BBC 2 Cymru a BBC 2W.
Mae'r rhaglen yn datgelu bod hen ddigon o ddŵr gan y ddinas i gyflawni anghenion y ddinas yn 1955.
Am y tro cyntaf mae nifer yn rhannu atgofion a phrofiadau o'r cyfnod cythryblus yma.
Erbyn 2006, 49 miliwn galwyn o ddŵr sy'n cael ei defnyddio gan y ddinas er bod modd tynnu 65 miliwn o Dryweryn, heb sôn am o gronfeydd eraill yn Efyrnwy a Rivington.
Perthnasau
Roedd y rhaglen yn edrych yn ôl ar y cyfnod cythryblus, gan siarad â phobl nad ydynt wedi rhannu eu profiadau o'r blaen.
Cynhyrchydd y rhaglen oedd Llion Iwan sydd hefyd yn ddarlithydd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor.
Fe gafodd yr ysgol ei chau yng Nghapel Celyn
|
Roedd ei daid, Gerallt Jones, yn aelod o Bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn, ac oherwydd y cysylltiad hwnnw y cafodd ei sbarduno i lunio'r rhaglen.
"Rown i'n meddwl mod i'n gwybod popeth am y digwyddiad yma, ond roedd holi pobl a fu'n byw yn yr ardal yn dod a'r stori yn fyw iawn imi ," meddai Mr Iwan.
"Yna roedd yr ymchwil a wnes wedi fy synnu, gan awgrymu'n gryf iawn nad oedd fyth angen boddi'r pentref o gwbl.
"Tydi Lerpwl hyd yn oed heddiw ddim yn defnyddio dŵr Tryweryn i gyd."
Dywedodd bod canfod y lluniau am godi'r fynwent yn yr archifdy yn ysgytwol, ac yn siwr o daro'r ergyd yn galed iawn i'r gwyliwr.
"A wnaethon nhw chwaith ddim ateb y cwestiwn, lle mae'r dŵr 'dros ben' os hoffech ei alw'n hynny, yn mynd heddiw?," ychwanegodd.
Cerddoriaeth
Roedd y rhaglen hefyd yn defnyddio cerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig gan un aelod arall o staff Prifysgol Cymru Bangor ac sydd â chysylltiadau teuluol gyda Chapel Celyn.
Mae Guto Puw, yn ddarlithydd ac yn gyfansoddwr ac fe gafodd y darn 'Reservoirs' ei gomisiynu gan BBC Radio 3.
Collodd taid Guto, Dan Puw, dir ffermio i'r argae.
Fe gafodd Capel Celyn ei boddi yn 1965 er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl.
Cafodd 800 erw o dir, yr ysgol, y llythyrdy, y capel a'r fynwent ei boddi er mwyn creu'r gronfa ddŵr.
Drowning a Village, BBC 2 Cymru a BBC 2W, nos Iau am 1930.