Fe fu'r pedwar wrthi'n chwarae am 33 awr a 35 munud
|
Torri record byd oedd nod elusen i'r digartref ar y Maes yn Abertawe yn ystod yr wythnos.
Fe gychwynnodd pedwar o weithwyr Shelter Cymru chwarae gêm o bêl-droed bwrdd ar eu stondin.
Eu gobaith oedd gallu parhau gyda'r un gêm am dros 33 awr er mwyn torri'r record.
Fe lwyddon nhw a daeth y gêm i ben wedi 33 awr a 35 munud, dau funud yn fwy na'r record.
Dywedodd Lis Derrick o'r elusen bod pawb yn falch iawn.
"Yr amser i'w guro oedd 33 awr a 33 munud," meddai.
"Rydym yn gobeithio ein bod wedi tynnu sylw at yr elusen wrth i bobl ddod draw at y stondin i gefnogi'r chwaraewyr."
Cefnogaeth
Y pedwar oedd yn chwarae oedd Rhian Jones, Steve Hammond, Lorraine Jones a Sharon Linter.
Wedi'r "marathon" dywedodd Rhian Jones eu bod wedi blino ond ei fod yn deimlad ffantasig.
"Roedd y gefnogaeth yn anhygoel i ni.
Dywed Rhian Jones bod y teimlad yn ffantasig ar ôl cwblhau'r dasg
|
"Rydan ni'n gobeithio dychwelyd flwyddyn nesaf gyda record arall i'w thorri.
"Mae'r garddynau a'r coesau yn oce."
Dywedodd eu bod yn cael pum munud o seibiant ym mhob awr.
"Roeddem hefyd yn cael massage yn ystod yr amser tra'n chwarae oedd yn gymorth i ni," ychwanegodd Ms Jones.
"Fe wnaeth yr heddlu, sydd â stondin gyferbyn a ni, frecwast i ni ddydd Iau.
"Bu gweithwyr eraill yn ôl bwyd a diod i ni."
Dywedodd nad oedd yn unig dros nos ar nos Fercher gan fod 'na orsaf radio lleol yn darlledu o'r babell am gyfnodau ond bod y dydd Iau ei hun yn anodd iawn.
"Roedd y nos wedi mynd yn sydyn ond roeddem yn weddol flinedig wedyn dydd Iau gan fod y diwedd i'w weld."