Bu'r Eisteddfod yn Abertawe yn llwyddiant ariannol, medd trefnwyr
|
Cyhoeddwyd ddydd Sadwrn bod Eisteddfod Abertawe wedi bod yn llwyddiant ariannol.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, bod yr ŵyl wedi "talu amdani ei hun" ac mae 'na weddill sylweddol.
Doedd dim ffigyrau terfynol ar gael ond roedd Mr Roberts yn credu y byddai'n sicr dros £100,000.
"Rhaid cofio mai bach iawn ydi hyn o gofio bod cost yr ŵyl yn £2.8m," meddai.
Fe ddaw hyn wedi cyfnod o ansicrwydd ariannol i'r Eisteddfod.
Ychwanegodd Mr Roberts bod yr Eisteddfod eleni wedi bod yn llwyddiant ym mhob ffordd.
"Wedi gwneud colledion yn y blynyddoedd diwethaf mae'r newyddion yma yn Abertawe yn newyddion da iawn," ychwanegodd Eric Davies y Trysorydd.
"Gallwn ddweud ein bod eleni wedi cyrraedd y targedau mynediad i'r maes, wedi mynd heibio'r targed ar gyfer y cyngherddau ac felly bod 'na elw."
Dywedodd bod elw neu golled yn ddibynnol ar y cyngherddau a bod y cyngherddau eleni wedi bod yn llwyddiannus iawn.
"Dydi'r problemau ariannol ddim wedi clirio ond mae'r sylfaen yn gwella," ychwanegodd.