Tinashe Mushakavanhu: Awdur 'addawol, lliwgar' yn ôl Menna Elfyn
|
Mae bron i 40 o lenorion Cymru wedi cyfrannu eitemau personol ar gyfer arwerthiant i godi arian i helpu astudiaethau myfyriwr o Zimbabwe.
Bydd Arwerthiant Pethe Awduron y Pethe yn y Babell Lên ar Faes yr Eisteddfod yn Abertawe brynhawn Sadwrn.
Mae'r trefnydd, y bardd a'r awdur Menna Elfyn, wedi casglu eitemau, llyfrau a cherddi arbennig i fynd dan y morthwyl gan bobl fel Mererid Hopwood, Gwyneth Lewis, Myrddin ap Dafydd a Tudur Dylan.
Bydd yr arwerthiant yn galluogi awdur 23-oed o Zimbabwe Tinashe Mushakavanhu i ddod i Gymru ym mis Medi i ddilyn cwrs MA Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Un o'r llenorion cynta i gynnig eitem ar gyfer yr arwerthiant oedd y Prifardd Dic Jones.
 |
RHAI O'R EITEMAU DAN Y MOTHWYL
Owen Sheers: Sgarff Cymru wedi ei arwyddo ganddo
Caryl Lewis: Brat, welis ac eirlysiau oddi wrth gymeriadau ei nofel Martha, Jac a Sianco
Mererid Hopwood: Plât ei mam-gu a cherdd amdano
Mei Mac: Poster gwreiddiol ag englyn arno
Emyr Humphreys: Argraffiad cynta o lyfr Y Tri Llais wedi ei arwyddo
Ceri Wyn Jones: Crys polo coch a enillodd am chwarae golff yn Y Bala, noson cyn iddo ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol
|
Fe gynigiodd ei bibell faco, yngŷd ag englyn arbennig iddi.
Mae rhai o'r llenorion wedi cyfrannu eitemau'n ymwneud â chyfandir Affrica - cadwynau o Zimbabwe gan bennaeth yr Academi Peter Finch, lliain sychu llestri gwrth-apartheid a chwpled gan Tony Bianchi, eitemau o Soweto yn Ne Affrica gan Alun Wyn Bevan a breichled a llun o Mali gan Bethan Gwanas.
Ymhlith y cyfranwyr eraill mae enillwyr dwy o brif wobrau'r Brifwyl yr wythnos hon.
Mae Prifardd y Goron Eigra Lewis Roberts wedi rhoi dau ddarlun pensel ac mae Fflur Dafydd, enillodd y Fedal Ryddiaith, wedi rhoi sgidiau coch lledr a chopi o'i chryno ddisg 'Coch am Weddill fy Oes'.
Yr Athro Hywel Teifi Edwards fydd yr arwerthwr.
Menna Elfyn yw trefnydd yr arwerthiant
|
Dywedodd Ms Elfyn iddi gwrdd â Mr Mushakavanhu wrth gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol fel rhan o gynllun y Cyngor Prydeinig yn Simbabwe rhyw flwyddyn yn ôl.
"Fe oedd yr ifancaf o'r rhai y bues i'n eu mentora ar y cynllun ond fe wnaeth e argraff am ei fod yn awdur ifanc addawol, lliwgar," meddai.
"Mae wedi cael gradd dosbarth cynta mewn Saesneg ym Mhrifysgol Harare yn Simbabwe a'i freuddwyd fawr oedd cael gwneud y cwrs MA yng Ngholeg y Drindod.
"Mae o'n un o dri o blant a fo yw'r hynaf ond dydi ei rieni ddim yn gweithio ac maen nhw mewn sefyllfa erchyll - does dim byd yn y wlad."
Mae'r arwerthiant yn cychwyn yn y Babell Lên am 1500 ddydd Sadwrn.