Fe gafodd canlyniadau'r arolwg eu cyflwyno ddechrau Mawrth
|
Mae cyrff iechyd yn rhybuddio y gallai newidiadau arfaethedig i wasanaethau mamolaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru orfodi menywod beichiog i deithio milltiroedd i gael triniaeth frys neu arbenigol.
Argymell diwygiad y mae adroddiad newydd fyddai'n lleoli'r prif wasanaeth dan arweiniad ymgynghorwyr yng Nghaerfyrddin.
Anghynaliadwy yw'r ddarpariaeth bresennol yn ôl adolygiad tair Coleg Frenhinol.
Dywed yr adroddiad mai bydwragedd ddylai arwain gwasanaethau yn ysbytai Llwyn Helyg yn Sir Benfro a Bronglais yng Ngheredigion.
Ond mae mudiadau iechyd ac ymgyrchwyr eisoes yn rhybuddio y byddai hynny'n gorfodi llawer o fenywod i deithio i Gaerfyrddin i roi genedigaeth.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan ymddiriedolaethau iechyd a byrddau iechyd lleol y rhanbarth.
Byddai gwasanaethau cyn-geni yn cael eu cynyddu, ond byddai'r mamau sydd angen triniaeth frys neu arbenigol yn gorfod teithio.
Mae Ysbyty Llwyn Helyg Hwlffordd yn delio ag oddeutu 1,250 o enedigaethau bob blwyddyn, o gwmpas traean ohonyn nhw'n achosion didrafferth fyddai'n gallu gael eu hymdrin gan fydwragedd.
Ond mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai gofyn i rieni eraill deithio y tu allan i'r sir i Gaerfyrddin.
"Ergyd"
Dywedodd Ashley Warlow, prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Sir Benfro: "Trosglwyddo gwasanaethau i rywle arall yw'r opsiwn hawdd.
 |
CRYNODEB O'R ARGYMHELLION:
Caerfyrddin fyddai'r prif uned famolaeth dan arweiniad obstetregydd ar gyfer Dyfed
Bydwragedd i arwain gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Llwyn Helyg
|
Bydwragedd yn bennaf yn gyfrifol am wasanaethau yng Ngheredigion
Cynyddu'r ddarpariaeth leol mewn clinigau cyn-geni ar draws Dyfed
Canolbwyntio gwasanaethau paediatrig claf preswyl yng Nghaerfyrddin gyda chanolfan dydd estynedig yn Llwyn Helyg
Ffynhonnell: adroddiad y Colegau Brenhinol