Mae eisteddfodwyr yn barod yn troi am Sir y Fflint a'r Cyffiniau
|
Gydag Eisteddfod Abertawe a'r Cylch wedi dirwyn i ben mae'r golygon yn troi bellach am y gogledd ddwyrain.
Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Sir y Fflint a'r Cyffiniau yn 2007.
Cwta saith mis sydd ers i'r penderfyniad gael ei wneud a'r gwaith codi arian gychwyn.
Ond dywed Aled Lloyd Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Sir y Fflint, bod y rhagolygon yn dda.
Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gyrion tref Yr Wyddgrug ac yn ôl trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, fe fydd y meysydd parcio, y maes carafannau a'r prif faes ar yr un safle.
Fe fu'r Eisteddfod yn yr ardal ddiwethaf yn 1991, Eisteddfod Bro Delyn.
"Mae pethe'n edrych yn reit addawol i feddwl ein bod wedi bod wrthi ers mis Chwefror fel ci yn ceisio dal ei gynffon," meddai Dr Davies.
"Ond yn si?r bydd pethe'n 'dod i fwcl'.
"Yn lwcus mae gennym ni lot o dîm 1991 - pan oedd yr Eisteddfod yma ddiwethaf - ac maen nhw dal yn awyddus ac yn weithgar."
Cytundeb
Dywedodd bod 'na lawer o bobl ifanc yn y cyfarfod agoriadol oedd yn rhy ifanc yn 1991 ond yn awyddus ac yn weithgar erbyn hyn.
"Mae hyn yn galondid i ni," ychwanegodd.
Ychwanegodd Mr Edwards bod y gronfa leol eisoes wedi codi treian, £70,000, o'r nôd ariannol ac mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyfrannu £100,000 ychwanegol.
Aled Lloyd Davies ydi cadeirydd pwyllgor gwaith 2007
|
"Mae'r arwyddion i'w gweld yn dda iawn ar gyfer yr Eisteddfod.
"Mae'r cytundeb am y maes wedi cael ei arwyddo ac mae'r maes llai na phum munud o ganol tref Yr Wyddgrug.
"Fe fydd y system drafnidiaeth yn hwylus yno ac rydym yn cynnal trafodaethau i wneud rhan o ffordd osgoi'r dref yn lle diogel."
Dywedodd bod yr ymateb gan y cynghorau cymuned wedi bod ffafriol iawn o gofio bod y maes o fewn 10 milltir i'r ffin â Lloegr.
"O ran yr ymateb lleol mae 'na ymateb da iawn gyda nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal a mwy i ddod, gyda'r thema 007!" ychwanegodd.