BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Awst 2006, 21:11 GMT 22:11 UK
Imogen yn gadael ty'r Brawd Mawr
Imogen Thomas
Dywedodd Imogen ei bod yn edrych ymlaen at weld ei theulu

Mae'r Gymraes Imogen Thomas wedi gadael cystadleuaeth Big Brother nos Wener wythnos cyn y rownd derfynol.

Hi a Richard Newman 33 oed o Ganada fu'n wynebu pleidlais y cyhoedd.

Llwyddodd Imogen, 23 oed o Lanelli i aros yn y tŷ am 86 o ddiwrnodau a hi oedd ffefryn y bwcis i fynd.

Mae hi am i'r Cymro Glyn Wise ennill y gystadleuaeth a'r wobr o £100,000.

Ymatebodd Imogen gan wenu a neidio'n hapus pan gyhoeddwyd mai hi oedd am gael ei hel o'r tŷ.

Ond fe roedd Glyn yn edrych yn siomedig a dechreuodd cystadleuydd arall Aisleyne wylo.

Mi roedd o fel brawd i mi
Imogen Thomas am Glyn Wise

Cafodd Imogen groeso cynnes gan y dorf wrth adael y tŷ.

Dywedodd wrth gael ei holi gan y gyflwynwraig Davina McCall nad oedd hi'n poeni fod y cyhoedd wedi pleidleisio i gadw Richard.

"Mi fyswn i wedi hoffi bod yn y tŷ tan y diwedd ond mi roeddwn yn colli fy nheulu," meddai.

Dywedodd mai Glyn oedd ei ffrind gorau yn y tŷ, gan gyfadde mai'r cysylltiad Cymreig oedd un o'r rhesymau dros hynny.

'Glyn i ennill'

"Mi roedd o fel brawd i mi," meddai.

Ychwanegodd ei fod eisiau i'r Cymro ifanc ennill y gystadleuaeth pan ddaw i ben yr wythnos nesa.

Dywedodd ei thad Charles Thomas cyn canlyniad y bleidlais ei fod yn ofni mai hi oedd y ffefryn i adael.

Mae yntau hefyd am weld Glyn yn ennill.

"Mae'r berthynas rhwng Imogen a Glyn wedi tyfu dros yr wythnosau diwetha, maen nhw mwy fel brawd a chwaer," dywedodd.

Doedd Glyn, 18, ddim yn wynebu pleidlais y cyhoedd yr wythnos yma ond mae'r Brawd Mawr wedi ei "gosbi'n llym" nos Wener am dorri rheolau trwy fynd ar ben to'r tŷ ganol yr wythnos.

Ceisio cyrraedd cyd-gystadleuwyr yn y 'tŷ drws nesa' oedd y Cymro.

Ni chafodd chwarae unrhyw ran yn y drafodaeth wrth i'r cystadleuwyr benderfynu i adael i Nikki Grahame ddychwelyd i'r tŷ.




HEFYD
Brawd Mawr: Iaith ar waith
02 Awst 06 |  Newyddion
Brawd Mawr: Imogen yn cael aros
28 Gorff 06 |  Newyddion
Brawd Mawr: Cymry'n cael aros
14 Gorff 06 |  Newyddion
Brawd Mawr: 'Rhy ifanc'
12 Gorff 06 |  Newyddion
Brawd Mawr: Rhyddhad i Imogen
23 Meh 06 |  Newyddion
Chwaer fawr yn gwylio'r brawd bach
24 Mai 06 |  Newyddion
Y Brawd Mawr: Dim negeseuon Cymraeg
23 Mai 06 |  Newyddion
Y Brawd Mawr a'r iaith
19 Mai 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^