Cafodd nifer o Gymry amlwg eu derbyn i Orsedd y Beirdd eleni - yn eu mysg Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Richard Brunstrom, a gyrhaeddodd y maes yn ei wisg heddlu cyn newid i'w wisg wen.
Richard Brunstrom gyda Megan Lloyd Williams, aelod annibynnol o Awdurdod Heddlu'r Gogledd a'i enwebodd i'r Orsedd. "Mae o wedi gwneud cymaint i'r Gymraeg ac wedi creu gwasanaeth dwyieithog ac rydym mor falch ohono," meddai.
Richard Brunstrom yn cyrraedd y Babell Len ar gyfer y seremoni. Gan ei bod yn bwrw fe gafodd y seremoni ei chynnal yno.
Un arall oedd yn cael ei anrhydeddu oedd Betty Williams AS Conwy. Dywedodd ei bod yn bechod am y glaw gan y byddai wedi bod yn braf bod allan yn y cylch.
Macwyaid y llys, Owain Talfryn Morris a Luke Millard gyda Mam y Fro, Lisa Lewis Jones.
Clive Rowlands a Ieuan Evans yn croesawu chwaraewr rygbi newydd, Robin McBryde, Robin o Fôn, i'r Orsedd.
Robin McBryde gyda'i feibion, Harry a Billy.
Merched y Ddawns Flodau yn barod ar gyfer y seremoniau ddydd Gwener
Y darlledwr a'r cerddor Alwyn Humphreys yr ochr arall i'r meic yn cael ei holi cyn iddo gael ei urddo ddydd Gwener
Morynion y Llys, Emma Jayne Cook a Jessica Jayne Wakefield-Baugh gyda Chyflwyniad y Flodeugerdd, Gwenllian Llyr.
|