Yr Athro Hywel Teifi Edwards wnaeth gyflwyno'r ddau gynnig
|
Mae Cyngor yr Eisteddfod wedi eu gorfodi i ailystyried dau benderfyniad pwysig a wnaed yn ddiweddar.
Yn ystod cyfarfod blynyddol Llys yr Eisteddfod ar y Maes ddydd Gwener fe benderfynwyd gofyn i'r Cyngor ailystyried lle Llywydd y Dydd ar y llwyfan a dyfodol seremoni croesawu Cymru a'r Byd.
Cafodd y ddau gynnig eu cyflwyno i'r llys gan Yr Athro Hywel Teifi Edwards.
Eleni am y tro cyntaf doedd 'na ddim seremoni swyddogol i groesawu'r Cymry Tramor na chyfle i Lywydd y Dydd, Yr Athro Prys Morgan, annerch o'r llwyfan.
Roedd y newidiadau'n rhan o ymgais i foderneiddio ac ehanu apêl yr Eisteddfod.
Dadl swyddogion y brifwyl oedd bod y seremoni fel ag yr oedd yn dangos ei hoed a bod angen symud ymlaen, ac mae'r Athro Edwards yn derbyn bod angen ei diwygio.
Cafodd ei gynnig i roi sicrwydd lle ac amser i anerchiad y llywydd ei dderbyn gyda'r Cyngor yn mynd ati i ystyried lle i "Lywydd yr Ŵyl" a chanfod y cyfle gorau er mwyn i'r person hwnnw gael cynulleidfa deilwng.
"Fe hoffem weld yr anerchiad ar Ddiwrnod y Coroni a bod y llywydd yn cael cynulleidfa deg," ychwanegodd yr Athro Edwards.
Cyfraniadau
Cyflwynodd yr Athro Edwards gynnig hefyd yn galw am ddiogelu seremoni Cymru a'r Byd fel ffordd "hanfodol gyhoeddus o ddathlu ymlyniad wrth Gymreictod".
Roedd o'n teimlo fod y Brifwyl ar ei cholled eleni gan nad oedd 'na seremoni swyddogol.
"Oni bai am y Cymry Tramor fydde 'na ddim Eisteddfod," meddai wrth gychwyn ei ddadl, gan gyfeirio at gyfraniad y tramorwyr at ariannu eisteddfodau'r 19fed ganrif.
"Rhaid defnyddio'r llwyfan cenedlaethol a dathlu'r ymrwymiad gyda'r wlad a'u creodd.
"Mae 'na berygl i ni fel Cymry fod yn alltud yn ein gwlad ein hunain os na fyddwn ni'n ofalus."
Ond dadl un a wrthwynebodd y cynnig, Alwyn Roberts, oedd nad ydi'r seremoni'n gweddu i batrwm gweddill seremonïau'r Brifwyl.
Arwydd o fethiant?
"Dylai'r seremonïau ddathlu dau beth - gorchest unigolion a gwerth cymdeithasol yr hyn sy'n cael ei ddathlu," meddai.
"I mi mae'r ffaith fod gymaint o Gymry wedi gorfod gadael eu gwlad yn arwydd o'n methiant a'n tlodi fel cymdeithas.
"Dydw i ddim yn gweld pwynt i'r Eisteddfod Genedlaethol ddathlu methiant a thlodi. Dydi hynny'n dibrisio dim ar gyfraniad pobl fel unigolion
Wedi trafodaeth fywiog iawn pleidleisiodd aelodau'r llys yn unfrydol dros welliant gan y Parchedig Meirion Lloyd Davies yn awdurdodi'r Bwrdd Rheoli i drafod ymhellach ffordd addas o estyn croeso i'r Cymry Tramor gydag Undeb Cymru a'r Byd.
"Dydan ni ddim yn galw am ddileu'r seremoni na'r croeso ond mae'r seremoni wedi chwythu ei phlwc ac mae'n rhaid i ni ailedrych wrth i'r Eisteddfod symud ymlaen," meddai.