Gwenno oedd ffugenw Gwynfor ab Ifor
|
Gwynfor ab Ifor o Sling ger Tregarth, Gwynedd, sydd wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Abertawe 2006.
Fe wnaeth 11 ymgeisio am y Gadair a gwaith "Gwenno" ddaeth i'r brig gan y beirniaid.
Tasg y gystadleuaeth oedd llunio awdl mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 200 llinell ar y thema Tonnau.
Y beirniaid oedd Dic Jones, Ceri Wyn Jones a Gerallt Lloyd Owen.
Yn ogystal â derbyn Cadair yr Eisteddfod mae Mr ab Ifor yn derbyn gwobr ariannol o £750.
Yn ei feirniadaeth dywedodd Dic Jones bod hon yn "un o'r cystadlaethau mwyaf clos" iddo ei beirniadu.
"Tor-priodas neu wahanu dau gymar sy'n thema i'r awdl....ac mae'n rhoi hanes yr anghydfod mewn cyfres gampus o englynion.
"Roedd 'na gymaint i'w edmygu mewn gwaith saith o'r cerddi ac mae'r tri ohonom wedi cytuno bod clasuroldeb traddodiadol Gwenno yn rhagori."
'Gwefr'
Dywedodd Ceri Wyn Jones bod gan Gwenno "reolaeth arbennig dros ei chyfrwng ac arddull sy'n gweddu i'r dim i'w chân".
Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni
|
I'r trydydd beirniad, Gerallt Lloyd Owen, hon oedd "y wefr".
Cafodd Mr ab Ifor ei eni yn Sling yn 1954 gan fynychu Capel Gorffwysfa sydd bellach yn gartref iddo ef a'i wraig Bethan Gwyn o Rydcymerau.
Mae'n dad i bedair merch, Elin, Angharad, Mari a Rhiannon Gwyn.
Graddiodd o Brifysgol Cymru yn 1975 a chael tystysgrif i raddedigion ym Mangor yn 1976.
Wedi gyrfa gyda Chyngor Gwynedd yn yr adran addysg yn bennaf daeth yn brif swyddog gweinyddol y Coleg Normal o 1989 hyd uno'r sefydliad gyda'r Brifysgol yn 1996.
Bu'n uwch-gofrestrydd cynorthwyol gyda'r brifysgol tan 2000.
Yn y flwyddyn honno y sefydlodd fusnes cyfieithu Tasg, gyda'i wraig ac mae'r ddau yn gweithio o'r swyddfa ym Methesda.
Ymryson
Enillodd gadair Eisteddfod y Ffôr ger Pwllheli yn niwedd y 1970au a chystadlu am gadair Eisteddfod Meirion a'r cyffiniau yn 1997.
Dic Jones: 'Un o'r cystadlaethau mwyaf clos' iddo ei beirniadu
|
Cyfrannodd yn gyson at ymrysonfeydd Barddas yn yr 1980au ac ar Dalwrn y Beirdd gyda thimau Dyffryn Ogwen a Thregarth.
Yn hunangofiant John Ogwen, Hogyn o Sling, cyfeirir at Mr ab Owen fel "bardd a fydd, gobeithio, y cyntaf o Sling i ennill Cadair y Genedlaethol".
Bregus oedd sail y broffwydoliaeth a gymerodd union 10 mlynedd i'w gwireddu.
Ond yn awr mae 'na bedwaredd gadair wedi cyrraedd Dyffryn Ogwen wedi i Caradog Pritchard, Emrys Edwards ac Ieuan Wyn ennill.