Fe fydd Mrs Jones yn 90 ddiwedd y mis
|
Mae'n debyg mai gwraig sydd o fewn y mis yn 90 oed ydi'r enillydd hynaf yn yr Eisteddfod eleni.
Mae Helena Jones o Bontsenni yn 89 oed ar hyn o bryd ac wedi ennill tri o'r cystadlaethau yn Abertawe.
Ond mae'r tair yn ail iaith Mrs Jones gan mai cystadlaethau ar gyfer dysgwyr ydyn nhw.
Fe ddaeth hi'n gydradd ail am lefaru ac yn gyntaf am ddweud stori ddigri ddydd Mercher a dydd Iau enillodd gydradd gyntaf ar gyflwyniad yn seiliedig ar ffotograff o wrthrych personol.
Bu Mrs Jones yn cystadlu llawer ar lefaru yn Saesneg pan oedd yn iau a dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu ar lefaru yn y Gymraeg.
Dywedodd bod y darn llefaru, Cul Cymru gan Mari Stevens, yn ddarn "anodd" ond ei bod wedi mwynhau'r profiad o fod ar lwyfan cenedlaethol.
"Mae gen i gof ardderchog i ddysgu pethau," meddai wrth siarad dros baned ym Mhabell y Dysgwyr.
"Dwi'n mwynhau llefaru a dysgu'r Gymraeg."
Dysgodd Gymraeg yn Aberhonddu ac mewn dosbarthiadau yn Y Fenni oherwydd ei bod am helpu ei hwyrion a'i hwyres gyda'u gwaith.
"Cychwynnais ddysgu 15 mlynedd yn ôl ond doedd dim digon yn parhau i fynd i'r gwersi.
"Mae'n anodd dysgu ar ben eich hun. Does neb yn Sefydliad y Merched ym Mhontsenni yn siarad Cymraeg a dim ond un yn y (clwb) Derby and Joan.
Ychwanegodd: "Dwi'n gwneud gwaith gwirfoddol gyda Tenovus yn Aberhonddu ac yn cael cyfle weithiau i siarad gyda'r cwsmeriaid.
"Dwi'n mwynhau siarad Cymraeg."
Fe fydd Mrs Jones yn 90 oed ddiwedd y mis a dywed ei bod yn falch iawn o gyrraedd y llwyfan a chael y profiad.