Derbyniodd Dr Gwynn y Fedal gan Lywydd Llys yr Eisteddfod Hugh Thomas
|
Gwraig o Dal-y-bont, Ceredigion, sy'n derbyn Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod.
Ganed Eirwen Meriona Gwynn yn Lerpwl cyn i'w rheini symud y teulu i Langefni.
Derbyniodd hi'r fedal mewn seremoni arbennig ar y maes.
Hi oedd y ferch gynta i ennill doethuriaeth mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd wedi graddio ym maes Crisialeg Pelydrau-X yn 1940.
Bu'n ymchwilydd gwyddonol, athrawes ffiseg, archwilydd adran o'r gwasanaeth gwladol yn Llundain, yn ffermio, yn ddarlithydd i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ac Adran Allanol y Brifysgol am 25 mlynedd, yn athro-drefnydd amser llawn i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr am 10 mlynedd.
Diddordebau eang
Mae wedi rhoi llawer o ddarlithiau ac wedi darlledu'n aml.
Hi yw cyn-lywydd y Gymdeithas Wyddonol Brydeinig ac mae'n aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd.
Mae'n gyn-aelod o Lys y Llyfrgell Genedlaethol, Cyngor Ymgynghorol dros Addysg, Llys y Brifysgol ac o Bwyllgor Sefydlog Urdd y Graddedigion. Mae'n Gymrodor o Brifysgol Bangor.
Tu allan i faes gwyddoniaeth mae ei diddordebau'n eang - enillodd gystadleuaeth ddrama'r BBC, y stori fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol a dangoswyd ei lluniau yn yr Arddangosfa Gelf a Chrefft.
1,400 o erthyglau
Mae'n awdur tua 1,400 o erthyglau ar bynciau gwyddonol, yn bennaf yn Y Cymro, Y Faner, Y Gwyddonydd a chylchgronau eraill ac mewn llyfrau megis Gwyddonwyr y Byd, Cell Gymysg o'r Genedlaethol, Cyffro ein Canrif, Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr 20fed Ganrif.
Bu'n awdur a chyflwynydd degau o raglenni radio a 12 rhaglen deledu.
Yn ddiweddar, roedd yn un o awduron a chyd-olygydd Ein Canrif, 100 mlynedd o hanes ardal Ceulanmaesmawr, (Talybont, Ceredigion) cyfrol ddwyieithog tua 600 tudalen wedi'i chyhoeddi yn 2005.