Roedd tua 80 o bobl yn cystadlu yn y Brifwyl eleni
|
Mae trefnwyr cystadleuaeth golff flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi rhoi'r wobr gynta i ddyn oedd yn ail nid merch a gafodd y sgôr ucha.
Roedd tua 80 o bobl yn cystadlu yng Nghlwb Golff Pontardawe ddydd Llun a Rhian Wyn Thomas, 19 oed o Lanwennog ger Llanbedr Pont Steffan, gafodd y sgôr uchaf.
Ond dywedodd y trefnwyr nad oedd y rheolau'n caniatáu iddyn nhw roi'r tlws iddi am iddi chwarae ar y cwrs merched yn lle'r un cwrs â'r dynion.
Dywedodd Rhian y byddai wedi cystadlu ar yr un cwrs â'r dynion pe bai'r trefnwyr wedi egluro'r drefn yn glir iddi ar y cychwyn.
Dyw'r gystadleuaeth golff ddim yn un o weithgareddau swyddogol y Brifwyl ond mae wedi ei chynnal am 21 mlynedd.
Mae Rhian, sydd wedi dilyn cwrs i fod yn therapydd holistig, yn chwarae golff ers tair blynedd ac yn aelod o Glwb Gwesty Bro Morgannwg.
Handicap
Fel arfer, mae hi'n chwarae â handicap o dri ond oherwydd rheolau'r gystadleuaeth ddydd Llun cychwynnodd â handicap o ddau.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer chwaraewyr benywaidd fel Michelle Wie
|
Talodd ffi o £16 am gymryd rhan yn y gystadleuaeth 18-twll a chychwynnodd o'r man neilltuol ar gyfer merched.
Ar ôl mynd o gwmpas y cwrs roedd ganddi sgôr o 39 - tri phwynt yn fwy na'r dyn ddaeth yn ail.
Ond ar ddiwedd y gystadleuaeth dywedodd y trefnwyr na fyddai'n derbyn y wobr gynta am nad oedd wedi cychwyn o'r un man â'r dynion.
Dywedodd Rhian, sy wedi cystadlu yn erbyn dynion o'r blaen, y byddai wedi chwarae ar yr un cwrs â'r dynion pe bai wedi cael gwybod mai hon oedd y drefn.
"Do'n i ddim yn hapus iawn," meddai'r ferch sy'n gobeithio troi'n broffesiynol y flwyddyn nesa.
'Rheolau'n rhwystr'
Dywedodd trefnydd y gystadleuaeth Gwyndaf Evans ei fod yn deall siom Rhian.
Ond mynnodd bod golffwyr benywaidd yn gorfod chwarae dan reolau undeb y merched a bod y rheolau hynny'n rhwystro merched rhag tïo'r bêl o fan cychwyn y dynion.
"Maen nhw yn aml ryw ugain llath neu ragor yn nes ymlaen na thïau'r dynion," meddai. "Dyw hi ddim yn bosib i roi'r wobr achos maen nhw'n chwarae ar gwrs sy'n fyrrach.
Ychwanegodd: "Mae 'na gystadleuaeth ar wahân i'r merched. Gofynnodd neb o flaen llaw a oedd y wobr yn mynd i fod yn wahanol.
"Does dim llawer allwn ni wneud ynglŷn â'r mater achos yr anghyfiawnder (o ran) mesurau'r tïau."