Roedd pabell Undeb Cymru a'r Byd yn orlawn
|
Ar ddiwrnod pan oedd sylw yn arfer bod i'r Cymry Tramor bu dadl frwd ar Faes yr Eisteddfod.
Ym Mhabell Undeb Cymru a'r Byd roedd trafodaeth am benderfyniad Cyngor yr Eisteddfod i ddileu Seremoni Cymru a'r Byd eleni.
Er bod rhai o blaid y penderfyniad, roedd eraill yn anhapus iawn.
Dywedodd Arweinydd Cymru a'r Byd 2006, Philip Davies o New Jersey, America, ei fod wedi cael croeso yn ystod yr wythnos.
"Er fy mod yn siomedig nad oes 'na seremoni mae'r croeso yma wedi bod yn gynnes iawn gan yr undeb a'r Eisteddfod," meddai'r dyn a fagwyd yn Llandyfaelog ger Caerfyrddin.
"Mae'r seremoni wedi tynnu'r Cymry at ei gilydd ers dros 50 mlynedd ond rhaid edrych ymlaen.
"Er hyn dwi'n gobeithio y bydd 'na le amlwg i ni yn y dyfodol gan ein bod yn falch o gael dychwelyd adref."
Adfer seremoni
Roedd rhai yn y babell yn anfodlon iawn gyda'r penderfyniad i ddileu'r seremoni a chroesawu'r Cymry adref yn swyddogol er bod 'na gydnabyddiaeth wedi bod o'r llwyfan yn ystod yr wythnos.
Cafodd y seremoni gyntaf ei chynnal yn 1948, pan oedd dychwelyd adref yn "ddigwyddiad unwaith mewn oes" yn ôl Meirion Lloyd Davies, un o aelodau Cyngor yr Eisteddfod.
Bydd Hywel Teifi Edwards yn cyflwyno cynnig yn y Llys ddydd Gwener
|
Dydd Gwener fe fydd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn cyflwyno cynnig yng nghyfarfod o Lys Yr Eisteddfod yn galw am adfer y seremoni, nid o'r rheidrwydd ar yr un patrwm ag yn y gorffennol, er mwyn creu cyfle i groesawu'r Cymry tramor o'r llwyfan.
"Yr hyn sy'n bwysig ydi dathlu ymlyniad," meddai.
"Mae'n bwysig i ni groesawu'r Cymry adref o'r llwyfan gan fod y seremoni nid yn unig yn bwysig i'r rhai tramor ond i'r rhai yma hefyd.
"Dim galw am adfer y seremoni a chael trafodaeth am y modd o greu seremoni lachar er mwyn i'r llwyfan cenedlaethol gael ei ddefnyddio fel y dylai."
Troi cefn
Dywedodd Deiniol Pierce o Gymdeithas Cymru a'r Byd nad y Cymry tramor yn unig sy'n anfodlon gyda'r penderfyniad ond Cymry yng Nghymru.
"Oherwydd y penderfyniad mae llai o dramorwyr wedi dod drosodd eleni," meddai. "Mae 'na groeso i'w harian ond nid iddyn nhw."
Meirion Lloyd Davies yn achub cam y cyngor
|
Un arall oedd yn hynod o siomedig ac yn tanio oedd Tony Davies o Dde Affrica, arweinydd Cymru a'r Byd ym Mhrifwyl 2004.
"Rydan ni'n Gymry lle bynnag ydan ni'n byw yn y byd a dwi'n credu bod yr Eisteddfod wedi troi cefn ar y Cymry tramor a'n cloi ni allan.
"Dydi'r rhai sy'n byw yng Nghymru ddim yn gwybod be ydi'n teimladau ni y rhai sy'n byw dramor."
Wrth ymateb eglurodd Meirion Lloyd Davies bod cryn feddwl ac ystyriaeth wedi bod i'r penderfyniad.
"Mae Cymru wedi newid, ac mae'n haws i bobl ddychwelyd ac mae 'na groeso i bobl o bedwar ban y byd yma er nad oes 'na bob tro o'r llwyfan.
"Dwi ddim yn derbyn y ddadl os nad oes 'na le ar y llwyfan bod bobl yn peidio â dod yma."
Mae'r drafodaeth yn llawn ar raglen Manylu gyda Gwilym Owen ar BBC Radio Cymru nos Iau am 1700 ac ailddarllediad nos Sul am 1800.