Mae'r rhaglen yn darogan geiriau wrth i'r defnyddiwr deipio neges
|
Mae defnyddwyr ffonau poced wedi cael cyfle i dreialu meddalwedd sy'n gwneud hi'n fwy hwylus i ysgrifennu negeseuon testun yn Gymraeg.
Cafodd y meddalwedd tecstio, sy'n darogan geiriau Cymraeg wrth i'r defnyddiwr deipio, ei lansio gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Hyd yn hyn doedd dim dewis i Gymry Cymraeg ond ychwanegu geiriau yn unigol at eiriadur eu ffonau - neu deipio popeth oedd yn golygu bod y broses yn araf.
Bydd y gwasanaeth ar gael am ddim am gyfnod ac mae rhaid i ddefnyddwyr lwytho'r meddalwedd i'w ffonau.
Dywedodd y Bwrdd Iaith ei fod am i gymaint o bobl â phosib â ffonau addas i gymryd rhan yn y cynllun peilot.
Datblygiad cyffrous'
"Dyma ffordd hwylus a chyflym o deipio negeseuon testun ar ffôn poced a gall y rhaglen helpu unrhyw un sy'n tecstio yn Gymraeg," meddai prif weithredwr y bwrdd Meirion Prys Jones.
Roedd datblygu'r meddalwedd, meddai, yn adlewyrchu pwysigrwydd maes technoleg gwybodaeth o ran hybu'r defnydd o'r Gymraeg.
"Rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn yr arbrawf a chyfrannu at y datblygiad newydd a chyffrous hwn a chynnig sylwadau amdano.
"Mae'r bwrdd yn credu'n gryf fod angen darparu adnoddau i hwyluso defnyddio'r Gymraeg a sicrhau eu bod ar gael yn hawdd i bobl eu defnyddio, megis ar y we."
Roedd Steffan Jones, y dyn a ddatblygodd y meddalwedd ar ran y bwrdd, yn y lansiad, yn ateb ymholiadau ac yn esbonio i ymwelwyr â stondin y bwrdd sut i lwytho'r rhaglen i'w ffonau poced.