Mae'r ysgol feithrin yn Y Gaiman yn boblogaidd iawn
|
Mae ysgol feithrin wedi agor yn swyddogol yn Nhrelew ym Mhatagonia ddydd Llun.
Ysgol Feithrin yr Hendre yw'r ysgol feithrin Gymraeg swyddogol gyntaf i agor yn y Wladfa.
Roedd angen £30,000 er mwyn sicrhau adeilad a fyddai hefyd yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol ac fe gafodd y rhan fwyaf o'r arian ei gasglu yng Nghymru.
Fel rhan o'r ymdrechion i godi arian cafodd ocsiwn ei gynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri.
"Dim ond addysg trwy gyfrwng y Sbaeneg sydd wedi bod ers blynyddoedd yn y Wladfa," meddai Fabio Lewis sy'n enedigol o'r Wladfa ac oedd yn un o'r rhai fu'n codi arian yng Nghymru.
"Fe ges i fy magu yn y Wladfa ac fe ges i fy addysg yn gyfan gwbl yn y Sbaeneg ond nawr mae'r plant yn cael cyfle i gael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
'Cydnabod yr iaith'
"Beth sydd mor arbennig yw bod llywodraeth y dalaith (Chubut) wedi cydnabod hynny ac felly wedi cydnabod yr iaith ac mae hwn yn gam aruthrol i'r Gymraeg yn y Wladfa," meddai.
Dywedodd fod llywodraeth y dalaith "wedi cadarnhau y byddan nhw'n talu am bobl sy'n glanhau a'r trydan a'r nwy ac fe fyddan nhw hefyd yn cyfrannu at gyflogau athrawon".
"Bydd rhaid iddyn nhw (trigolion y Wladfa) ganfod eu ffordd eu hunain wedyn i geisio codi arian i gynnal yr ysgol ond dwi'n siwr y byddwn yn dod at ein gilydd eto yma yng Nghymru a bydd pobl yn ddigon parod i godi arian helpu'r ysgol yn y dyfodol," meddai.
Dywedodd fod rhyw 30 o blant o bob cwr o'r Wladfa yn mynd i'r ysgol a'r gobaith yw y bydd y nifer yn tyfu yn y dyfodol agos.
Y gobaith hefyd yw y bydd yr ysgol yn ehangu i fod yn ysgol gynradd yn y dyfodol.
'Hollbwysig'
Cyn sefydlu'r ysgol roedd dosbarth yn cyfarfod yn festri'r capel bum diwrnod yr wythnos ddwy awr a hanner y dydd.
Fis Gorffennaf, tra roedd arian yn cael ei gasglu ar gyfer yr ysgol feithrin, dywedodd Catrin Morris de Junyent, sy'n byw yn Y Wladfa, fod cael adeilad yn hollbwysig.
"Rydyn ni wedi dibynnu ar garedigrwydd Cymdeithas Dewi Sant a Chapel y Tabernacl ond er mwyn cynnal addysg feithrin gyhoeddus mae'n rhaid ni gael adeilad ein hunain," meddai.
Dywedodd y byddai'r ysgol feithrin yn cynnig lle i 36 o blant yn y bore a'r prynhawn ac y byddai Llyfrgell yr Orsedd a dosbarthiadau plant yma hefyd a gweithgareddau cymdeithasol fel asado, cwis a nosweithiau cawl a chân.