Y Gadair sy'n cynnwys paneli derw, copr a gwydr
|
Os bydd teilyngdod yng nghystadleuaeth Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol brynhawn Gwener fe fydd y bardd buddugol yn derbyn cadair sy'n "ail-greu tirwedd dramatig" bro'r Brifwyl.
Mae'r gadair yn cynnwys derw, copr a gwydr - deunyddiau sy'n gysylltiedig ag ardal Abertawe.
Cafodd y gadair ei dylunio gan Elonwy Riley o Lansawel, Llandeilo, a'i gwneud gan Tony Graham a Paul Norrington yng Ngholeg Sir Gaerfyrddin.
Mae cadair eleni yn rhodd gan Eglwys yr Annibynnwyr Bethel, Sgeti, Abertawe ac yn cael ei chynnig fel gwobr am lunio awdl mewn cynghanedd heb fod dros 200 llinell ar y testun Tonnau.
Beirniaid y gystadleuaeth ydi Dic Jones, Ceri Wyn Jones a Gerallt Lloyd Owen.
Mae gan Ms Riley brofiad o dros 30 mlynedd yn y maes ac ar hyn o bryd mae hi'n ddarlithydd dylunio mewn colegau yn ne a gorllewin Cymru.
Dywedodd bod nodweddion daearyddol unigryw Abertawe a'r Cylch wedi dylanwadu ar gynllun y gadair.
"Roeddwn am ddal yr agweddau gweledol hyn yn fy nghynllun a thrwy ddefnyddio deunyddiau sydd â chysylltiadau diwydiannol a diwylliannol gydag Abertawe a'r Cylch.
"Dwi wedi llwyddo i ail-greu'r tirwedd dramatig yma.
"Mae copr yn cynrychioli'r cysylltiad hanesyddol, tra bod gan y gwydr ddolen fwy diweddar gan fod canolfan Genedlaethol Gwydr Lliw Pensaernïol wedi'i lleoli yn Athrofa Abertawe."
Mae'r paneli derw ar gefn y gadair yn efelychu llyfr agored gan gyfeirio at Dylan Thomas.
Cafodd y gadair ei chreu ar safle'r coleg yn Rhydaman.
Rodney Bender fu'n gyfrifol am y gwaith gwydr sydd yng nghanol y gadair.
Yn ogystal â'r gadair fe fydd y bardd buddugol yn derbyn gwobr ariannol o £750.