Mae Stuart Imm yn stiwardio ar Faes yr Eisteddfod yn Abertawe
|
Mae dysgwr sydd bellach yn diwtor Cymraeg wedi ei gyhoeddi'n fuddugol yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.
Cafodd Stuart Imm o Gwmbrân ei wobrwyo mewn seremoni yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe nos Fercher.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Elwyn Hughes, Garry Owen a Helen Prosser.
Llwyddodd y cyfarwyddwr cwmni i ddysgu'r Gymraeg yn 2001 ar gwrs dosbarth nos cyn gwneud cwrs Wlpan.
Y llynedd pasiodd ei arholiad, Defnyddio'r Gymraeg, a bu'n weithgar i godi arian at Eisteddfod Casnewydd 2004 ac yn stiward yn Eryri 2005.
Unwaith eto mae'n stiwardio ar y maes yn Abertawe, mae hefyd yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac yn codi arian at elusen DebRA (EB: Epidermylosis Bullosa).
Enillodd dlws a £300, ac mae'r tri chystadleuydd arall wedi derbyn £100.
"Dwi wedi bod yn dysgu ers pum mlynedd wedi i mi fynd i gyfarfod gyda fy ngwaith yn Ffrainc, lle nad oedd y rhai o Brydain yn gallu siarad Ffrangeg.
"Penderfynais fod yn ddwyieithog a dewis Cymraeg gan mai Cymro ydw i.
"Dwi'n diwtor rhan amser sy'n golygu llawer o waith ond mae'n gyfle i'r disgyblion weld bod modd llwyddo gan fy mod yn esiampl o rywun sydd wedi dysgu.
Parhad
"Dwi'n ceisio dysgu siarad Cymraeg cymaint â phosib ond mae'n anodd iawn yn ardal Cwmbrân ac mae'n rhaid chwilio am gyfle i siarad."
Dywedodd ei fod yn hoff o gerdded ac yn trefnu teithiau i siaradwyr Cymraeg ond mae bod yn stiward yn yr Eisteddfod yn rhoi cyfle iddo gael sgwrsio.
"Mae'n bwysig sicrhau bod digon o gyfleoedd ar gael i siarad Cymraeg tu allan i'r ystafell ddosbarth," ychwanegodd.
Dywedodd ei fod yn hoff iawn o'r tlws gwydr a dderbyniodd fel gwobr a'r geiriau "O bydded i'r hen iaith barhau" arno.
Fe gafodd y pedwar a lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol gyfle i annerch cyd eisteddfodwyr ym mhabell y dysgwyr ddydd Mercher cyn y noson wobrwyo.
Cafwyd cyfle hefyd i'w holi gyda'r pedwar yn dangos eu meistrolaeth o'r Gymraeg.
Y tri chystadleuydd arall:
Fe symudodd Alison Evans o Loegr i Sir Benfro yn 1989
|
Yng Nghasnewydd Bach ger Hwlffordd y mae Alison Evans yn byw.
Yn wreiddiol o Loegr symudodd i Sir Benfro yn 1989.
Wedi tymor yn dysgu Cymraeg yn 1990 fe aeth ar gwrs Wlpan a chwrs pellach yn 2004.
Y llynedd pasiodd yr arholiadau TGAU ac mae bellach wedi mynd ati i wneud cyrsiau pellach.
Ers 15 mlynedd mae'n byw ar fferm yng Nghasmarl ac mae'n briod â Chymro ers 1993.
Mae hi hefyd yn gyrru bysiau ac yn weithgar iawn yn y gymuned a gyda'r eglwys leol.
Mae'n mwynhau chwarae dartiau a physgota ac yn siarad Cymraeg gyda theulu ei gŵr a'i ffrindiau yn yr ardal.
Wedi salwch symudodd Helen Evans i Sir Benfro
|
Mae Helen Evans yn byw yng Nghroesgoch, Hwlffordd, er iddi gael ei geni yn Swydd Henffordd.
Arferai ddarllen newyddion chwaraeon ar BBC News 24 a Radio 5 ac wedi salwch symudodd i Sir Benfro.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2001 ac yn Eisteddfod Tyddewi 2002 bu'n cynorthwyo ym Mhabell y Dysgwyr a chael ei hysbrydoli gan y gystadleuaeth.
Mae'n aelod o CYD Tyddewi ac yn 2004 daeth yn drysorydd.
Ymddangosodd ar Cefn Gwlad gan siarad am ei gwartheg ac ar Radio Cymru ac ymddangos ar Welsh in a Week.
Mae'n gweithio fel cynorthwyydd dysgu lefel uwch yn Ysgol Bro Dewi ac mae'n weithgar gyda'r Urdd.
Mae Richard Howe yn aelod o gymdeithas y Cymry ym Mhorthcawl
|
Cyfreithiwr o Borthcawl ydi Richard Howe sy'n dad i bump o blant.
Mae'n gweithio ym Mhort Talbot.
Yn 1997 fe ymunodd â CYD a dysgodd Gymraeg yn y cartref heb fynychu dosbarthiadau.
Mae'n ysgrifennydd CYD ym Mhorthcawl ac yn aelod o gymdeithas y Cymry yno.
Mae'n cynorthwyo gyda'r 'siop siarad' yn festri'r capel lleol ac yn siarad Cymraeg gyda chyfeillion ac yn y gwaith.