 |
Fe fydd gweithgor yn cael ei sefydlu i drafod polisiau Cymreig
|
Mae arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, wedi annog ei blaid i beidio ag ofni cyflymder ei newidiadau.
Yn ei araith yng nghynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr Cymreig yn Llandudno gofynnodd i'r aelodau bwyso arno i fynd yn gyflymach i "wneud y newidiadau sydd eu hangen".
Cyhoeddodd hefyd y bydd yn sefydlu gweithgor i bwyso a mesur polisļau Cymreig y blaid.
Ei araith ddydd Sul oedd yn dirwyn y gynhadledd ddeuddydd i ben.
Dywedodd wrth y gynhadledd: "Peidiwch ā dweud wrtha i, os gwelwch yn dda peidiwch ā dweud, fy mod yn mynd yn rhy gyflym.
Anelu at y freuddwyd
"Pwyswch arna i a'r tīm Ceidwadol i weithio'n galetach i symud yn gynt er mwyn gwneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn i ni adeiladu plaid yr ydym ni ei hangen.
"Os allwn ni fod yn blaid Geidwadol drugarog fe fyddwn ni unwaith eto, yn yr oes yma - yn hyderus yn ein gwerthoedd, yn glir yn ein huchelgais - yn gallu cyflawni'r freuddwyd sy'n dod ā ni i gyd at ein gilydd."
Araith Mr Cameron wnaeth gloi cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig
|
Dywedodd bod yr angen am blaid ddiwygiedig a fyddai'n barod i lywodraethu yn agosįu wrth i Lafur "redeg allan o syniadau".
Fe wnaeth hefyd egluro safbwynt yr wrthblaid ar gynllun cardiau adnabod y llywodraeth.
"Mae'n mynd i gostio biliynau, fe fydd yn cwtogi ar ryddid ac ni fydd yn gallu ein gwarchod yn yr amseroedd peryglus hyn," ychwanegodd.
"Mae hwn yn gynllun costus, yn gofeb o fethiant i'r llywodraeth a ni fydd y rhai fydd rhaid ei rwygo."
O ran y gweithgor i edrych ar bolisļau Cymru fe fydd yn cynnwys cynrychiolaeth o'r cynulliad cenedlaethol, llywodraeth leol, San Steffan ac Ewrop o dan gadeiryddiaeth llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig, Cheryl Gillan.
Yn ystod ei araith dywedodd Mr Cameron hefyd bod hi'n amser i symud ymhellach oddi wrth y dadleuon yn y gorffennol ar ddatganoli a bod yn rhaid i'r Ceidwadwyr wneud i ddatganoli weithio ar gyfer pobl Cymru.
Dywedodd bod datganoli yn "golygu rhoi pwer i bobl i wneud penderfyniadau, i redeg eu bywydau ei hunain" gan ddweud bod y Ceidwadwyr yn "blaid sy'n gwneud i ddatganoli weithio".