BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 9 Awst 2006, 12:50 GMT 13:50 UK
Prifwyl: 'Hwb y di-Gymraeg'
Heini Gruffudd, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Abertawe 2006
Mae'r Eisteddfod wedi hybu rhai i ddysgu'r iaith, medd Heini Gruffudd

Mae cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni wedi dweud fod dylanwad yr Eisteddfod ar y ddinas a'r ardal yn llwyddiannus, yn hwb i'r Gymraeg.

Mewn cynhadledd newyddion ddydd Mercher dywedodd Heini Gruffudd fod cyfraniad y di-Gymraeg i'r Eisteddfod wedi bod yn werthfawr tu hwnt.

Roedd y Brifwyl wedi cyfoethogi'r di-Gymraeg drwy eu hybu i ddysgu'r Gymraeg, meddai.

"Mae'r ymateb dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn hynod o arbennig."

Dywedodd fod pennaeth coleg lleol wedi cael ei wefreiddio o fod ar y Maes a'i fod wedi cael "ei brofiad Cymraeg cyntaf" a gweld y Gymraeg yn iaith fyw.

"Fe ddywedodd wrtha i ei fod wedi cael trŲedigaeth ac y byddai'n mynd ati i ddysgu Cymraeg."

Cefnogaeth

Byddai sawl un, meddai, yn cofrestru ar gyfer gwersi Cymraeg yn yr ardal ym Medi.

"Roedd y gŵr wedi cael ei ysbrydoli o fod yma ar y Maes ac mae hyn yn braf i'w weld a'i glywed.

"Hoffem weld bod y Gymraeg yn dylanwadu ar agweddau yma yn y dyfodol ac fe fydd yn hwb i'n hymdrechion i sicrhau ysgolion Cymraeg ac i'r cynghorau ddarparu gweithgareddau Cymraeg."

Dywedodd i'r Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg fod yn gefnogol iawn wrth godi arian a chynnal gweithgareddau am ddwy flynedd.

Roedd gan yr ardal, meddai, darged i godi £272,000 ond roedd e'n disgwyl y byddai'r swm yn fwy na £350,000.

'Naws'

Cafodd mwy na 700 o ddigwyddiadau eu cynnal yn y ddinas.

"Mae'r ffaith bod 'na ardaloedd di-Gymraeg ac ymwelwyr di-Gymraeg yn cyfrannu at naws yr Eisteddfod.

"Dwi'n sicr bod hanner y gynulleidfa yn y gymanfa nos Sul ac yng nghyngerdd Katherine Jenkins nos Wener yn ddi-Gymraeg ond eu bod yn dymuno bod yn rhan o'r digwyddiad."




Steddfod Genedlaethol 2006

ABERTAWE A'R CYLCH 2006

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^