Mae'r cynlluniau yn rhan o'r broses o foderneiddio'r Eisteddfod
|
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn edrych ar effaith amgylcheddol ymweliad yr ŵyl ag ardaloedd Cymru.
Wrth gydweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Phrifysgol Cymru Bangor mae'r Eisteddfod yn nodi sgileffeithiau mewn arolwg.
Wrth ei gyhoeddi, dywedodd Dafydd Whittall, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, ei fod yn gam at "barhau i foderneiddio'r" Brifwyl.
Ers blynyddoedd mae'r Eisteddfod yn cydweithio â'r asiantaeth a chynghorau lleol i sicrhau bod yr ŵyl mor gynaliadwy â phosib.
Wrth baratoi a llunio'r hyn sydd ar gael ar y Maes, meddai, roedd yr Eisteddfod yn ystyried materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Newid hinsawdd
Mae'r rhain yn amrywio o ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus i gyfleusterau ailgylchu ar y Maes a sut i arbed dŵr.
Dywedodd tîm Synnwyr Busnes o'r brifysgol ei fod am fesur a phwyso pa mor gynaliadw oedd yr Eisteddfod.
"Drwy gynlluniau fel trafnidiaeth gyhoeddus, llai o geir yn dod i'r Maes a ffyrdd o arbed dŵr fe fyddwn ni'n cyfrannu tuag at arbed ein hamgylchedd," meddai Mr Whittall.
"Mae hon yn bartneriaeth bwysig, fel yr un gyda'r awdurdodau lleol."
Bwriad y Brifwyl yw bod yn garedig i'r amgylchedd yn lleol
|
Dywedodd John Rowlands o Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod wedi cydweithio ers blynyddoedd ar systemau sy'n garedig i'r amgylchedd, fel toiledau arbennig mewn rhai mannau.
"Un cam ar y tro fydd hi ond gyda'r Eisteddfod yn symud yn flynyddol mae'n dipyn o her iddyn nhw fod yn garedig i'r amgylchedd yn lleol."
Dywedodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, fod y Brifwyl yn arwain "ymdrechion i frwydro yn erbyn cynhesu byd eang".
"Mae effeithiau niweidiol newid hinsawdd ar fywydau pawb.
"Rydym am fod yn rhan o'r ateb nid yn rhan o'r broblem ac rydym yn falch bod y brifysgol a'r asiantaeth yn bartneriaid i ni yn y fenter hon.
"Gobeithiwn allu cyflwyno atebion cyffrous ymarferol a chost- effeithiol fydd yn ysbrydoli Eisteddfodwyr a chymunedau gan sicrhau y bydd Cymru ar flaen y gad ar y mater yma."