Charles Clarke: "Mae'n rhaid wynebu sialensau cyfredol"
|
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref, Charles Clarke, yn symud ymlaen gyda'r cynllun i uno heddluoedd Cymru er gwaethaf gwrthwynebiadau awdurdodau'r pedwar llu.
Mewn datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin, fe roddodd Mr Clarke tan fis Gorffennaf i brif gwnstabliaid, awdurdodau heddlu a chynghorau i wrthwynebu'r cynllun.
Dywedodd y dyliai 43 o heddluoedd Cymru a Lloegr uno i daclo troseddu difrifol trawsffiniol a therfysgaeth gan gwblhau'r broses erbyn Ebrill 1 2007.
Mae Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud fod y cyhoeddiad yn "siomedig" ac mae Awdurdod Heddlu Gwent wedi dweud eu bod yn derbyn bod gan Mr Clarke y gallu i gyflwyno'r ad-drefnu.
Dyddiad cau
Cyhoeddwyd cynlluniau ailstrwythuro'r 43 llu yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys y pedwar yng Nghymru, ym mis Medi pan ddywedodd Arolygiaeth yr Heddlu nad oedd strwythur yr heddlu yn addas.
Awgrymodd adroddiad nifer o newidiadau gan ddweud nad oedd y strwythur presennol yn "addas i'r pwrpas".
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Mr Clarke fod llywodraeth Prydain yn bwriadu uno pedwar heddlu Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent, gan roi tan Chwefror 24 i benaethiaid heddlu gytuno.
Gwrthwynebu'r cynllun y gwnaeth holl heddluoedd Cymru - Heddlu Gwent, Heddlu Dyfed-Powys a heddluoedd y de a'r gogledd - oherwydd pryderon yn ymwneud â materion amrywiol fel cyllid a phlismona lleol.
Ond yn ei ddatganiad ddydd Gwener, dywedodd Mr Clarke: "Mae'r strwythur presennol yng Nghymru a Lloegr wedi bod mewn grym ers rhyw 30 blynedd.
"Mae llawer wedi newid o fewn cymdeithas ers hynny ac fy nghyfrifoldeb i fel yr ysgrifennydd cartref yw sicrhau fod y trefniadau plismona yn gallu taclo sialensau cyfredol yn effeithiol."
Cwestiynau
Cynllun uno: Un llu i Gymru erbyn Ebrill 2007
|
"O ran Heddluoedd Sir Gaer a Glannau Mersi a'r lluoedd yn y Gogledd Ddwyrain, Canolbarth Lloegr a Chymru, rwyf yn fodlon...y byddai'n fuddiol yn nhermau effeithlonrwydd ac effeithlonedd plismona i'r lluoedd ymhob un o'r ardaloedd hyn i uno."
Mae gofyn i awdurdodau heddlu, awdurdodau lleol a phrif gwnstabliaid gyflwyno gwrthwynebiadau erbyn Gorffennaf 2.
Wedi'r cyhoeddiad, cyhuddodd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru lywodraeth Prydain o gynnal ymgyrch "camhysbysrwydd sinigaidd" dros y cynlluniau uno.
Dywedodd cadeirydd yr awdurdod, Ian Roberts: "Rydym yn eithriadol o siomedig fod Charles Clarke wedi penderfynu anwybyddu dymuniadau pobl gogledd Cymru.
"Maen nhw wedi methu ag ateb cwestiynau hanfodol bwysig am nifer o faterion pwysig gan gynnwys ariannu ac atebolrwydd.
"Y gwir yw y byddai'n plismona lleol yn diodde'n anochel pe bae un llu i Gymru gyfan."
Ond er hynny, dywedodd Geraint Price Thomas, Cadeirydd Awdurdod Heddlu Gwent a llefarydd ar ran Awdurdodau Heddlu Cymru, sydd wedi lleisio gwrthwynebiad i'r uno, bod o'n derbyn y bydd yr uno yn digwydd yn hwyr neu'n hwyrach.
"Rydym yn realistig, ac mae'n rhaid i ni dderbyn bod gan Charles Clarke y gallu i gyflwyno'r uno ac ar ddiwedd y dydd be sy'n bwysig ydi gwasanaeth heddlu gwell ac effeithiol i bobl Cymru."
Ond dywedodd bod yna ddiffygion wedi bod yn y broses hyd yma.
"Rydym yn credu rwan bod rhaid i ni gysylltu gyda'r Swyddfa Gartref ac egluro be sydd ei angen ei gael ad-drefnu effeithiol."