Charles Clarke: Am uno heddluoedd Cymru
|
Mae aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio y bydd uno heddluoedd Cymru'n effeithio'n andwyol ar yr iaith Gymraeg.
Pryder yr awdurdod yw y byddai'r cam yn "dadwneud polisïau arloesol" Heddlu'r Gogledd o ran hybu'r iaith.
Mae pedwar heddlu Cymru yn erbyn cynlluniau'r Ysgrifennydd Cartref Charles Clarke i ad-drefnu plismona yng Nghymru a Lloegr ac yn mynnu fod angen mwy o arian i weithredu'r newidiadau.
Ofni y mae Awdurdod Heddlu'r Gogledd mai blaenoriaeth isel fydd materion ieithyddol os y bydd Mr Clarke yn dal i ailstrwythuro.
Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud y bydd yn gweithredu'r cynllun i gwtogi heddluoedd Cymur a Lloegr o 43 i 12 os yw'r heddluoedd yn cytuno'n wirfoddol i uno neu peidio.
Ei ddadl yw bod lluoedd â llai na 4,000 o swyddogion yn anaddas i ddelio â therfysgaeth a throseddu trawsffiniol.
Ychydig dros 3,300 o blismyn sydd gan Heddlu'r De ac mae llai na 2,000 o blismyn yn gweithio i bob un o'r tri arall yng Nghymru.
'Yn ganolog
Roedd Heddlu'r Gogledd wedi dweud y byddai cydweithio â Heddlu Sir Gaer yn fwy buddiol.
Dywedodd yr awdurdod heddlu y byddai creu un heddlu i Gymru yn "dadwneud camau blaengar" i hybu dwyieithrwydd a recriwtio plismyn sy'n medru'r Gymraeg.
"Rydym yn anelu at fod yn gorff cwbwl ddwyieithog ac rydym wedi rhoi'r iaith Gymraeg yn ganolog i'n polisïau," meddai aelod o'r awdurdod Megan Lloyd Williams.
"Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arwain ar y mater yma, i'r graddau bod ein polisïau arloesol yn cael eu defnyddio'n batrwm o arfer da o ran yr iaith Gymraeg gan gyrff cyhoeddus eraill."
Dywedodd ei fod yn hanfodol fod yr heddlu'n gallu cynnig gwasanaeth i bobl leol yn yr iaith o'u dewis, yn Gymraeg neu'n Saesneg.
Yr unig ffordd o sicrhau hynny, meddai, oedd codi proffil y Gymraeg o fewn y llu, gan adlewyrchu sefyllfa ieithyddol y gymdeithas oedd yn cael ei gwasanaethu.
Yn ôl Mrs Williams, roedd y Prif Gwnstabl Richard Brunstrom wedi "trawsnewid ethos Heddlu'r Gogledd".
Pan ymunodd â Heddlu'r Gogledd yn 1999, meddai, nid oedd yn siarad un gair o'r iaith ond mae erbyn hyn wedi pasio arholiad Lefel A yn y Gymraeg.
Buddsoddi
Mr Brunstrom sy'n cadeirio grŵp sy'n trafod materion iaith yn Heddlu'r Gogledd.
Mae Richard Brunstrom wedi dysgu'r Gymraeg ers ymuno â Heddlu'r Gogledd
|
"Pan ymunais yn wreiddiol â'r awdurdod heddlu yn 1999, roedd cofnodion yn cael eu dosbarthu yn Saesneg yn unig ond nawr mae'r awdurdod yn gwbwl ddwyieithog," meddai Mrs Williams.
"Drwy gydweithio â'r prif gwnstabl, mae'r awdurdod heddlu wedi buddsoddi yn yr iaith, yn nhermau ymroddiad a chyllid.
"Y llu oedd y cynta yng Nghymru i apwyntio swyddog recriwtio penodol er mwyn ceisio denu mwy o siaradwyr Cymraeg a phobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig."
Dywedodd fod y cyhoedd yn gwerthfawrogi ymdrechion yr heddlu. "Rhaid cofio mai dim ond mewn argyfwng y mae'r rhan fwya o bobl yn cysylltu â'r heddlu - dyna pryd y mae'n rhaid gallu cyfathrebu yn eich mamiaith.
Ymgynghori
"Rydym yn gweithio'n galed i gynnig gwasanaeth cwbwl ddwyieithog ac rydym wedi cymryd camau breision yng ngogledd Cymru.
"Y peth ola rwyf am ei weld yw i'n cymunedau golli dim o hynny."
Mae'r awdurdod yn honni y byddai'n costio o gwmpas £77m i sefydlu un llu ar gyfer Cymru gyfan ac y byddai siaradwyr Cymraeg yn cael eu trin fel "dinasyddion eilradd".
"Os y mae ailstrwythuro yn cael ei gorfodi arnon ni, fy mhryder mwya yw y bydd y gweledigaeth clir sydd wedi gyrru'r newidiadau yng ngogledd Cymru yn cael eu colli am byth," meddai Mrs Williams.
Gofynnwyd i'r Swyddfa Gartef am ei sylwadau ond ni chafwyd ymateb hyd yn hyn.
Roedd Mr Clarke wedi rhoi tan Chwefror 24 i'r pedwar awdurdod heddlu gytuno i uno'n wirfoddol, ond fe wrthododd y pedwar y cynlluniau.
O dan y ddeddfwriaeth gall Mr Clarke orfodi'r uno ei hun os nad yw awdurdodau'r heddlu'n cytuno i uno'n wirfoddol.
Mae Mr Clarke wedi dweud wrth yr awdurdodau ei fod yn bwriadu dechrau'r broses honno ar Fawrth 1.
Yna bydd cyfnod ymgynghori o bedwar mis i roi cyfle i'r cyhoedd, awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad leisio barn.