Mae Bethan Hughes yn defnyddio therapi telyn i helpu cleifion cansyr
|
Fe fu cynhadledd flynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod ffyrdd o sicrhau lle canolog i'r diwydiannau creadigol ymhob rhan o fywyd pobl Cymru.
Daeth o gwmpas 250 o bobl i'r gynhadledd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth gan gynnwys Alun Pugh AC, Gweinidog Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol, a chadeirydd dros dro'r cyngor yr Athro Dai Smith.
Cafwyd areithiau a gweithdai gan arbenigwyr yn edrych ar le'r celfyddydau o fewn y byd addysg a'r economi a rôl y maes wrth adfywio ardaloedd, meithrin sgiliau a datblygu cymunedau.
Yn y prynhawn fe fu prif weithredwr y cyngor Peter Tyndall yn edrych yn ôl ar flwyddyn a welodd anghydfod dros y ffordd y gwnaeth Mr Pugh ymdrin â phenodi olynydd i gyn gadeirydd y cyngor Geraint Talfan Davies.
Newid meddylfryd
Thema'r gynhadledd yn Aberystwyth oedd 'Mae'r celfyddydau'n newid - mae'r celfyddydau a'u gwaith i'w canfod yn awr ymhob cwr o'r gymdeithas fodern'.
Un pwnc trafod oedd ceisio sicrhau ystyriaeth i rôl y celfyddydau wrth lunio polisïau o fewn meysydd fel addysg a dysgu gydol oes, iechyd, gwasanaethau ieuenctid a chymunedol, lles cymdeithasol a datblygiad economaidd.
Y ddadl yw fod cymdeithas ar ei hennill yn addysgiadol, yn ariannol ac yn gymdeithasol o ganlyniad i fuddsoddi yn y celfyddydau.
Felly y ddadl yw fod angen i'r manteision hynny ddod yn rhan o feddylfryd llywodraethau, cynghorau a phwyllgorau wrth drafod buddsoddiadau mewn meysydd amrywiol fel addysg, iechyd ac adfywio economaidd.
Er enghraifft mae Canolfan Gansyr Felindre yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, yn defnyddio therapi telyn i geisio helpu cleifion sy'n cael triniaeth yn erbyn cansyr.
Y mosäig gafodd ei ddylunio a'i greu gan blant Ysgol Gynradd Parc
|
Treuliodd Bethan Hughes gyfnod yn astudio yn America yn dysgu sut i ddefnyddio'r offeryn ym maes iechyd.
Ym myd addysg mae'r celfyddydau yn gallu bod yn fodd i gyflwyno pynciau mewn ffordd ddifyr.
Fe wnaeth disgyblion Ysgol Gynradd Parc yng Nghwmparc ger Treorci ddylunio a chreu mosäig trawiadol ar ôl dysgu am hanes bomio'r pentre yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ymhlith yr arbenigwyr a gymrodd rhan yn y gynhadledd oedd John Holden, pennaeth diwylliant y grŵp ymgynghori Prydeinig Demos, Peter Edwards, cadeirydd Asiantaeth Ffilm Cymru a phennaeth drama ITV Cymru, a Liz O' Sullivan a Miles Fletcher o Sgiliau Creadigol a Diwylliannol.
Dywedodd Peter Tyndall fod thema eleni "yn canolbwyntio ar sut y mae'r celfyddydau'n cyfrannu at ac yn cyfoethogi pob agwedd o'n bywyd.
'Cynnydd sylweddol'
"Fy ngobaith yw y bydd y rhai fydd yn dod yma yn gadael wedi cael ail-wynt ac yn barod i wynebu'r amryfal sialensau a ddaw i'w rhan yn y dyfodol."
Fe fydd Alun Pugh yn annerch y gynhadledd
|
Ychwanegodd fod y gynhadledd flynyddol yn gyfle "i rannu arfer da, dysgu oddi wrth waith eraill a chnoi cil am y flwyddyn flaenorol ym myd y celfyddydau".
Yn ystod y flwyddyn ddiwetha mae nifer o bobl sydd â diddordeb ym maes y celfyddydau wedi mynegi pryder ynghylch penderfyniad gweinidog diwylliant y cynulliad i beidio ag ailbenodi Geraint Talfan Davies yn gadeirydd y cyngor.
Dywedodd Alun Pugh ei fod am gael cadeirydd fyddai'n ymestyn cyfleoedd i drigolion ardaloedd mwy difreintiedig fwynhau'r celfyddydau.
Cafodd yr Athro Dai Smith ei benodi'n gadeirydd dros dro ddiwedd Mawrth ac mae panel annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Athro Elan Closs Stephens wedi dechrau adolygiad o waith y cyngor.
Yn ystod y gynhadledd cyhoeddodd Mr Pugh ei fod am glustnodi £500,000 ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesa i ddatblygu theatr Saesneg yng Nghymru, ac yn arbennig yn y de.
Dywedodd: "Mi fydd y buddsoddiad ychwanegol yma yn gwella'n sylweddol nifer ac ansawdd y gwaith ar lwyfannau Cymru.
"Rwyf wedi gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru am gyngor ac argymhellion mewn da bryd cyn y bydd yr arian ar gael y flwyddyn nesa."
Yn ei araith fe dynnodd Mr Pugh sylw at uchafbwyntiau diweddar y byd theatr yng Nghymru gan gynnwys blwyddyn gynta Canolfan Mileniwm Cymru "sydd yn brysur ennill enw rhyngwladol" a chanolfannau rhanbarthol fel Galeri yng Nghaernarfon, Theatr Brycheiniog yn Llanfair-ym-Muallt a Theatr y Torch yn Aberdaugleddau.
Cyfeiriodd hefyd at gynlluniau i greu cynulleidfaoedd newydd ac i annog mwy o bobl i fwynhau dramâu mewn theatrau ar draws Cymru.
"Mae gwaith ymchwil cychwynnol am effaith Canolfan Mileniwm Cymru ar gynulleidfaoedd yn awgrymu cynnydd mewn cynulleidfaoedd yn gyffredinol mewn canolfannau eraill allai fod wedi teimlo eu bod dan fygythiad," meddai.
"Mae'n ymddangos fod y dymuniad i weld theatr a pherfformiadau ar gynnydd."