BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 9 Mai 2006, 06:01 GMT 07:01 UK
56 ysgol heb bennaeth parhaol
Dosbarth (Llun cyffredinol)
Mae angen cymhwyster newydd ar benaethiaid cyn y gallan nhw wneud cais am swydd

Mae awdurdodau addysg Cymru yn dweud eu bod yn cael trafferth recriwtio prifathrawon a bod y sefyllfa'n gwaethygu.

Ar hyn o bryd mae 56 o ysgolion ar draws Cymru heb bennaeth parhaol a bu'n rhaid ailhysbysebu 20 o'r rheiny.

Mae ymchwil gan raglen Post Cyntaf BBC Cymru yn dangos fod cynghorau sir yn ei chael hi'n fwyfwy anodd i benodi prifathrawon a bod 13 awdurdod addysg yn dweud bod y sefyllfa'n waeth yn achos ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad nad oes prinder prifathrawon.

Yn l ymchwil rhaglen Post Cyntaf:

  • Mae 56 o swyddi prifathrawon trwy Gymru yn wag ac mae 20 o'r swyddi hynny wedi eu hailhysbysebu

  • Dywed naw awdurdod lleol fod problem recriwtio penaethiaid ysgol a bod y sefyllfa'n gwaethygu

  • Mae 13 o awdurdodau lleol yn dweud fod problem yn arbennig o fewn ysgolion Cymraeg eu hiaith.

    Mae pobl yn anghofio bod prifathrawon angen cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cartref
    Pat Jones, prifathrawes Ysgol Gynradd Gymraeg Castell Nedd

    Mae nifer o'r awdurdodau yn credu fod cymhwyster cenedlaethol newydd a ddaeth i rym y llynedd yn rhannol gyfrifol am y gostyngiad mewn ceisiadau am swyddi prifathrawon.

    Bu'n rhaid ailhysbysebu swydd Pat Jones prifathrawes Ysgol Gynradd Gymraeg Castell Nedd sydd ar fin ymddeol.

    "Mae'n siomedig oherwydd mae hi'n swydd llawn her ac yn swydd rwyf wedi ei mwynhau dros 22 mlynedd ond yn sicr mae'r swydd wedi newid," meddai.

    "Mae pwysau gweinyddol y swydd wedi cynyddu - fe allai rhywun fod yn gwneud gwaith gweinyddol trwy'r dydd os ydych yn dewis gwneud hynny.

    "Yn amlwg nid dyna eich dewis ond mae'n anodd. Mae pobl yn anghofio bod prifathrawon angen cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cartref."

    'Digon yw digon'

    Gwaethygu y mae'r sefyllfa yn l Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon sy'n galw ar lywodraeth y cynulliad i weithredu i daclo'r broblem.

    Dywedodd yr undeb fod disgwyl i lawer mwy o swyddi ddod yn wag yn ystod y blynyddoedd nesa gan fod 65% o brifathrawon Cymru dros 50 oed.

    "Yn y 10 mlynedd nesa fe fyddwn ni'n colli dros 1,000 o benaethiaid ac yn y pum mlynedd fe fydd 600 yn mynd a does dim llawer o'r dirprwyon eisiau cynnig am y swyddi," meddai Iwan Guy, cyfarwyddwr dros dro NAHT Cymru.

    Dywedodd fod penaethiaid yn treulio mwy o amser nag y dylien nhw yn cynnal gwersi am nad oes digon o arian i gyflogi staff ychwanegol i ganiatu i athrawon dreulio hanner diwrnod yr wythnos yn paratoi gwersi.

    Swyddi gwag trwy Gymru
    Abertawe - 4
    Blaenau Gwent - 2
    Bro Morgannwg - 1
    Caerdydd - 5
    Caerffili - 0
    Casnewydd - 4
    Ceredigion - 2
    Conwy - 0
    Dinbych - 1
    Sir Gr - 4
    Gwynedd - 0
    Merthyr - 3
    Mynwy - 1
    Nedd Port Talbot - 4
    Penfro - 2
    Pen-y-bont ar Ogwr - 1
    Powys - 4
    Rhondda Cynon Taf - 2
    Torfaen - 1
    Wrecsam - 2
    Sir Y Fflint - 8
    Ynys Mn - 5

    Hefyd mae mwy o bwysau yn dod o gyfeiriad rhieni, meddai, sy'n taflu'r cyfrifoldeb am broblemau cymdeithasol "at ddrysau penaethiaid a digon yw digon".

    "Mae yna bwysau aruthrol ar benaethiaid erbyn hyn a does dim golwg bod y llywodraeth yn dod i'n helpu," ychwanegodd.

    "Heb help bydd mwy a mwy o ysgolion heb benaethiaid."

    Ond fe fynnodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad nad oes prinder prifathrawon yng Nghymru.

    Hefyd fe ddywedodd bod ystadegau BBC Cymru yn unol 'r disgwyl a bod y swyddi gwag yn cynrychioli llai na 3% o holl brifathrawon y wlad.

    Ychwanegodd bod y broses recriwtio ar fin cychwyn ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

    "Rydym yn datblygu cronfa iach iawn yng Nghymru o benaethiaid cymwys," meddai.

    "O'r 900 prifathro sydd eisoes wedi cael cymwysterau proffesiynol cenedlaethol pennaeth ysgol, sydd yn cael eu hariannu'n gyfangwbwl gan Lywodraeth y Cynulliad, mae 200 wedi cael swyddi prifathrawon.

    "Yn ychwanegol mae dros 359 o athrawon sydd ar hyn o bryd yn gweithio i gael y cymhwyster."

    Ychwanegodd fod penaethiaid sydd newydd gymhwyso yn cael cefnogaeth dan raglen neilltuol a bod "500 o brifathrawon newydd eisoes wedi elwa" o'r gefnogaeth yma.


  • CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^