BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 8 Mai 2006, 11:59 GMT 12:59 UK
Addysg: 'Poeni am ymgynghori'
Dosbarth
Mae niferoedd y disgyblion yn gostwng yn sylweddol yn ysgolion bach Gwynedd

Mae rhai rhieni a llywodraethwyr mewn ardal yn Arfon yn poeni ynglŷn â'r broses ymgynghori sy'n digwydd ar hyn o bryd i drafod dyfodol ysgolion cynradd yr ardal.

Mae nifer o gyfarfodydd wedi eu cynnal yn nalgylch yr ysgolion uwchradd i drafod dyfodol yr ysgolion cynradd.

Ond mae'n debyg bod rhai llywodraethwyr wedi eu synnu ar ôl clywed y gallai rhai ysgolion gael eu clystyru neu eu troi'n ysgolion ffederal.

Cyhoeddodd Pwyllgor Gwaith Ysgolion Gwynedd adroddiad ym Medi 2005 oedd yn tanlinellu pwysigrwydd ysgolion bach y sir ond a oedd hefyd yn codi pryderon am ddyfodol hir dymor rhai o ysgolion lleiaf Gwynedd o ran nifer y disgyblion.

Yn y cyfarfod hwnnw dwi'n teimlo eu bod nhw wedi pasio bob dim ac mai'r cwbwl oedden nhw eisiau i ni ei wneud oedd rhoi stamp ar hynny
Meirion Jones, un o lywodraethwyr Ysgol Gwaungynfi
Ar ôl ystyried yr adroddiad fe sefydlodd y cyngor bwyllgorau ar gyfer dalgylchoedd yr ardal.

Mae'r pwyllgorau hyn wedi bod yn cyfarfod rhieni a llywodraethwyr er mwyn trafod opsiynau at y dyfodol.

Yn ystod y cyfarfodydd yn Arfon fe gafodd sawl model eu cynnig ar gyfer ardal Brynrefail ger Llanberis gan gynnwys clystyru ysgolion Penisarwaun, Ysgol Gwaun Gynfi Deiniolen, Cwm y Glo, Bethel a Dolbadarn.

'Sioc'

Roedd Meirion Jones, un o lywodraethwyr Ysgol Gwaungynfi, yn un o'r cyfarfodydd ac fe gafodd e'i synnu gan y syniad o glystyru ysgolion.

"Roedd pawb ohonon ni wedi dychryn tipyn achos doedden ni ddim wedi paratoi ein hunain am hynny," meddai.

"Roedden ni wedi cael tipyn o ddeunydd ar gyfer beth oedd i'w drafod yn y cyfarfod ac roeddwn i'n meddwl mod i wedi darllen drwy hynny'n eithaf da ond roedd yn dipyn o sioc pan ddaeth y modelau yma allan.

Modelau i sbarduno trafodaeth yn unig sydd wedi eu cyflwyno ...
Gwynn Jones, pennaeth gwasanaeth ysgolion Gwynedd
"Yn y cyfarfod hwnnw dwi'n teimlo eu bod nhw wedi pasio bob dim ac mai'r cwbwl oedden nhw eisiau i ni ei wneud oedd rhoi stamp ar hynny ond yn anffodus tydan ni ddim wedi gwneud hynny."

Dywedodd un o rieni Ysgol Gwaungynfi Deiniolen fod clywed am y modelau yn sioc.

"Dwi'n synnu'n fawr iawn eu bod nhw'n ystyried clystyru gan fod tair ysgol sydd wedi eu henwi yn dair ysgol sy'n llewyrchus ac mae eisiau cadw ysgolion bach yn agored," meddai un o'r rhieni.

Un o'r pryderon yn lleol yw y bydd Cyngor Gwynedd yn defnyddio canllawiau'r comisiwn archwilio wrth ddiffinio ac ystyried ysgolion bach, sef ysgolion sy'n cynnwys llai na 90 disgybl.

'Cydweithio'

Ond mae Cyngor Gwynedd yn mynnu bod amgylchiadau addysg y sir yn unigryw a bod angen dod o hyd i atebion fyddai'n cwrdd â'r anghenion hynny.

Dywedodd Gwynn Jones, pennaeth gwasanaeth ysgolion Gwynedd, bod y cyfarfodydd hyn yn cael eu defnyddio er mwyn ymgynghori'n llawn gyda rhieni a llywodraethwyr ysgolion wrth benderfynu ar gynlluniau fydd yn effeithio ar ddyfodol eu hysgolion.

"Dwi'n meddwl fod cylch gorchwyl y cyfarfod yn berthnasol iawn sef cynorthwyo'r gwasanaeth ysgolion i ddatblygu modelau fydd yn diogelu a chryfhau addysg gynradd yn yr ardal," meddai.

"Felly mae'r neges yna o gydweithio yn allweddol iawn.

"Modelau i sbarduno trafodaeth yn unig sydd wedi eu cyflwyno ac yn sicr rydyn ni wedi pwysleisio o'r cychwyn nad ydyn ni'n disgwyl penderfyniadau terfynol yn y cyfarfodydd cyntaf."




HEFYD:
Ysgolion bach: 'Angen ad-drefnu'
19 Medi 05 |  Newyddion
'Argyfwng' ysgolion Cymraeg
30 Ebr 06 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^