Dr Robyn Lewis oedd wedi cyflwyno'r rhybudd o gynnig
|
Mae Llys yr Eisteddfod Genedlaethol wedi pleidleisio yn erbyn cynnig i atal cynnal y Brifwyl tu allan i Gymru yn y dyfodol.
Roedd y cyn-Archdderwydd Robyn Lewis wedi cyflwyno rhybudd o gynnig yn gofyn am newid cyfansoddiad yr Eisteddfod fel na fyddai modd cynnal y Brifwyl y tu allan i Gymru.
Pleidleisiodd 34 o blaid a 97 yn erbyn y rhybudd o gynnig yng nghyfarfod blynyddol Llys yr Eisteddfod ar y Maes ddydd Gwener.
Yn y cyfarfod mabwysiadwyd cyfansoddiad newydd yr Eisteddfod.
Roedd y cyfarfod i fod i gael ei gynnal ym Mhabell y Cymdeithasau ond gan fod cymaint o aelodau yn bresennol bu'n rhaid symud i'r Neuadd Ddawns.
Dr Robyn Lewis gyflwynodd rybudd o gynnig i'r Llys, awdurdod terfynol yr Eisteddfod, y dylid newid y cyfansoddiad fel ei bod yn glir na ellir cynnal yr Eisteddfod yn unman ond yng Nghymru.
Hybu Cymreictod
Byddai hynny'n ei gwneud yn amhosib i fwrw ymlaen ag unrhyw gynlluniau i fynd i Lerpwl ym 2007.
Yn y cyfarfod dywedodd Dr Lewis fod dau reswm am y cynnig.
"Un o amcanion yr Eisteddfod yw hybu Cymreictod yn ardal y Brifwyl. A fyddai hi'n gallu gwneud hynny yn Lerpwl?," gofynnodd.
Galwodd Alwyn Roberts am wrthod y cynnig
|
"Hefyd meddyliwch am y ferch ifanc yn cyflwyno tusw o flodau o dir a daear Lloegr," meddai.
Yn ystod y drafodaeth ar gynnig Dr Lewis yn y cyfarfod dadleuwyd mai annoeth fyddai ei gynnwys yn y cyfansoddiad.
"Mae'n hynod o bwysig i'r rheiny sy'n siarad ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru i fod â llaw gwbwl rydd i wneud y gorau droston ni gan gofio mai Eisteddfod Gymraeg yw hon, yng Nghymru ac i'r genedl Gymraeg," meddai'r cyn-farnwr Dewi Watkin Powell.
"Mae modd dod i gytundeb â llawer o awdurdodau ar draws y ffin ac mae'r Eisteddfod eisoes yn derbyn nawdd gan gwmnïau Seisnig.
"Does dim rheswm pam na allai awdurdodau lleol dros y ffin helpu eu cymrodyr yng Nghymru a natur ariannu'r Eisteddfod.
"Mae'n debyg fod pawb yn unfryd ar yr egwyddor sylfaenol (yn y cynnig) ond mae rhaid i ni beidio clymu ein dwylo ... ac mae'n bwysig cefnogi'r rheiny sy'n ymladd y frwydr dros ariannu'r Eisteddfod," meddai.
'Problemau posib'
Dywedodd y Parch Meirion Lloyd Davies y dylid cadw'r cynnig nes bod yr aelodau "wedi gweld y ffeithiau i gyd".
Ond mynnodd Dr Lewis eu bod yn pleidleisio yn y cyfarfod hwn "gan fod y rhan fwyaf o aelodau'r llys yn bresennol."
Pleidleisiodd aelodau Llys yr Eisteddfod yn y cyfarfod ar y Maes
|
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Technegol, Dyfrig Roberts, y gallai derbyn y cynnig achosi problemau yn y dyfodol pe bai'r Eisteddfod yn mynd i fro sy'n ffinio â Lloegr ac y gallai'r Maes fynd tu hwnt i'r ffin.
Galwodd ar aelodau'r llys i "beidio â'i lyffetheirio".
Holodd Alwyn Roberts, sydd newydd ei dderbyn yn Gymrawd yr Eisteddfod, beth fyddai'n digwydd petai'r sefyllfa'n codi mewn lleoedd fel Trefynwy neu Gas-gwent.
Byddai derbyn y cynnig, meddai, yn "clymu gormod ar ddwylo'r rhai sy'n ein dilyn ni.
"Ydyn ni heddiw yn gwybod yn well na chi fory? Dylid cadw pethau o gyfansoddiad oni bai fod rhaid iddyn nhw fod yno. Er mwyn popeth gwrthodwch o."
Lerpwl
Mae'r ffaith fod yr aelodau wedi pleidleisio dros wrthod y cynnig ddydd Gwener yn golygu fod dewis Lerpwl yn parhau yn bosib.
Dydi Cyngor Sir y Fflint ddim yn gallu cynnal y Brifwyl yn 2007 oherwydd prinder arian ond mae Cyngor Dinas Lerpwl wedi rhoi gwahoddiad i'r Brifwyl ymweld â'r ddinas yn y flwyddyn honno.
Dadl swyddogion yr Eisteddfod ydi gan mai Lerpwl ydi'r unig ddewis ar hyn o bryd y byddai'n annoeth gwrthod y cynnig hwnnw rhag ofn na fydd modd cynnal yr Eisteddfod yn unman arall.
Ym marn y swyddogion, byddai peidio â chynnal yr Eisteddfod o gwbwl yn gamgymeriad enfawr ac yn arwain at broblemau ychwanegol.