Fe fydd yr Eisteddfodwyr yn heidio am Abertawe nesaf
|
Wrth i Eisteddfod Eryri ddod i ben mae'r sylw yn troi at ddinas Abertawe a'r Eisteddfod yno y flwyddyn nesaf.
Ddydd Gwener cafwyd cyflwyniad ar y llwyfan i groesawu Cymry gyfan o bedwar ban i'r ddinas yn 2006.
Cafwyd croeso i dref y Jacs ar lafar a chân gyda'r gwaith paratoi olaf yn dechrau cael ei wneud.
Mae Richard Morris Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Eryri, wedi dymuno'r gorau i'w olynnydd, Heini Gruffudd.
Yn dilyn wythnos lwyddiannus yn Y Faenol, er gwaetha sawl pryder am arian, tywydd a theithio, mae'r Eisteddfod yn paratoi i adael y gogledd a throi tua'r de.
Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar safle hen waith tin Felindre rhwng Awst 5 a 12 2006.
Bywiog a phrysur
Eisoes mae'r fro wedi gweld rhywfaint o gynnwrf wrth i'r Ŵyl gael ei chyhoeddi yno ym mis Mehefin.
Dywedodd Mr Gruffudd, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn 2006, eu bod wedi casglu £150,000 yn barod o'r nod ariannol o £250,000.
Dywedodd hefyd bod 'na ymateb da iawn wedi bod i'w stondin ar y maes eleni.
Heini Gruffudd: Barod i groesawu Eisteddfodwyr i Abertawe
|
"Mae'r ymateb wedi bod yn hynod o fywiog a phrysur iawn," meddai.
"Cawsom brofiad gwych yma ac mae Moi a'i dîm i'w canmol am y gwaith.
"Braf iawn oedd gweld y Gymraeg yn iaith dorfol ac ym mhob man yn enwedig yn y cyngherddau a oedd mor llawn.
"Rydym wedi cael gwledd yma."
Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd yr un wledd i'w weld yn Abertawe y flwyddyn nesaf.
Soniodd y byddai'n dymuno gweld, oherwydd natur y ddinas, mwy o ddarpariaeth o ran adloniant o ran denu'r di-Gymraeg.
Adloniaint
"Mae 50,000 o bobl y ddinas efo sgiliau iaith yn y Gymraeg, y trydydd ucha o holl siroedd Cymru," meddai.
Richard Morris Jones: Wythnos lwyddiannus er gwaetha'r tywydd
|
"Rhaid i ni ddarparu mwy ar y cae liw dydd o ran adloniant cerddorol, dawnsio a safloedd perfformio os oes modd er mwyn i'r di-Gymraeg cael profi'n diwylliant wrth gerdded o gwmpas."
Dymunodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Eryri 2005, Richard Morris Jones (Moi), yn dda i'r Eisteddfod nesaf.
"Mae wedi bod yn wythnos dda yma yn Eryri, er gwaetha poeni am y tywydd," meddai.
"Mae'r nifer sydd wedi ymweld yn eithriadol o uchel gyda'r cyngherddau i gyd yn llawn.
"Dros y ddwy flynedd diwethaf rydan ni wedi hen arfer a threfnu o dan gwmwl diffyg arian yr Eisteddfod ond serch hynny fe wnaethon ni lwyddo i droi cefn ar un wedd a chreu Eisteddfod lwyddiannus.
"Rhaid i Abertawe symud i'r un cyfeiriad er mwyn cael Eisteddfod lwyddiannus."