Roedd Bryn Terfel yn perfformio nos Fawrth yn y pafiliwn hefyd
|
Ar noson olaf yr Eisteddfod fe fydd modd i wylwyr teledu ymuno gyda chynulleidfa'r pafiliwn ar gyfer cyngerdd arbennig i gloi'r brifwyl.
Llwydodd BBC Cymru ac S4C i gael cytundeb munud olaf gyda'r trefnwyr i ddarlledu'r cyngerdd gyda Bryn Terfel.
Yn hytrach na chystadlu ar y noson olaf fe fydd yr Eisteddfod yn Eryri yn cau gyda perfformiad arbennig gan artistiad o fro'r Eisteddfod.
Bydd y sioe, "Er Hwylio'r Haul", yn perfformio gwaith newydd y cyfansoddwr Robat Arwyn, am y tro cyntaf.
Mae'r gwaith yn adrodd hanes un o dywysogion olaf Gwynedd, Llywelyn Fawr.
 |
Mae'n wych bod yr Eisteddfod wedi comisiynu Robat Arwyn i ysgrifennu'r gwaith cerddorol am un o dywysogion mawr Gwynedd
|
Perfformir y gwaith 16 cân, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl, gan Bryn Terfel, y soprano Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod o dan arweiniad Pat Jones.
Gyda'r prif gystadleuaeth i'r Corau Meibion a Gwobr Goffa David Ellis, Y Rhuban Glas, wedi cael eu symud o'r noson gystadlu olaf traddodiadol mae'r Eisteddfod yn mentro gyda chyngerdd i gloi'r cyfan.
Mae'r gwaith wedi cael ei gomisiynu gan Robat Arwyn, sy'n wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ond sy'n byw bellach yn Rhuthuth ac yn lyfrgellydd o ran ei alwedigaeth.
'Balch'
Daw Bryn Terfel o Bantglas a Mari Wyn Williams o Lanberis.
Mae Robat Arwyn wedi cyfansoddi nifer fawr o ganeuon cofiadwy ac mae wedi ysgrifennu 10 o sioeau cerdd, saith ohonynt wedi'u comisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Rwy'n falch iawn o'r cyfle i berfformio yn noson ola'r Eisteddfod Genedlaethol a bod S4C yn darlledu'r cyfan," meddai Bryn Terfel.
"Mae'n wych bod yr Eisteddfod wedi comisiynu Robat Arwyn i ysgrifennu'r gwaith cerddorol am un o dywysogion mawr Gwynedd.
"Rwy'n siwr mai hwn fydd y cyntaf o sawl perfformiad.
" Fe fydd yn fraint hefyd i rannu llwyfan gyda'r soprano ifanc, ddisglair, Mari Wyn Williams."
Fe fydd y cyngerdd i'w weld yn fyw ar S4C nos Sadwrn Awst 6 am 2030.