Bydd disgwyl cyhoeddiad lle fydd prifwyl 2007
|
Ddydd Gwener mae'n bosib y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2007.
Fe fydd Llys yr Eisteddfod yn cynnal eu cyfarfod blynyddol ar y Maes.
Mae'n gyfarfod pwysig gyda sawl mater o bwys ar yr agenda gan gynnwys yr argyfwng ariannol a lleoliad cartref Prifwyl 2007.
Fe fydd 'na drafodaeth ar rybudd o gynnig gan y cyn Archdderwydd Robyn Llŷn yn gofyn am newid cyfansoddiad yr Eisteddfod.
Bwriad y cynnig ydi i sicrhau na ellir ei chynnal y tu allan i Gymru.
 |
Wrth ychwanegu dau air "yng Nghymru"...fe fydd yn clymu'r brifwyl i'w chynnal ar dir Cymru.
|
Oherwydd prinder arian dydi Cyngor Sir y Fflint ddim yn gallu cynnal y Brifwyl yn 2007 fel yr oedd y disgwyl.
Ar y llaw arall mae Cyngor Dinas Lerpwl wedi rhoi gwahoddiad i'r brifwyl ymweld â'r ddinas yn y flwyddyn honno.
Dadl swyddogion yr Eisteddfod ydi gan mai Lerpwl ydi'r unig ddewis ar hyn o bryd y byddai'n annoeth gwrthod y cynnig hwnnw rhag ofn na fydd modd cynnal yr Eisteddfod yn unman arall.
Ac ym marn y swyddogion byddai peidio cynnal yr Eisteddfod o gwbwl yn gamgymeriad enfawr ac yn arwain at broblemau ychwanegol.
Yng Nghymru
Ond mae yna garfan sy'n credu mai dim ond yng Nghymru y dylid cynnal y Brifwyl.
Un o'r rhain ydi'r cyn-Archeddwydd Robyn Llŷn.
Gadawodd Robyn Lewis y Pafiliwn mewn protest yn ystod araith Dafydd Wigley
|
Mae o wedi cyflwyno rhybudd o gynnig i'r Llys, awdurdod terfynol yr Eisteddfod, y dylid newid y cyfansoddiad fel ei bod yn gwbwl glir na ellir cynnal yr Eisteddfod yn unman ond yng Nghymru.
"Dim ond dau air ydyn nhw," meddai.
"Mae'r cymal priodol yn darllen ar hyn o bryd ei bod yn "ddylestwydd yr ymddiriedolaeth i gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn flynyddol" a dwi wedi ychwanegu dau air "yng Nghymru" ar y diwedd.
"Os digwydd hynny rhaid cynnal y brifwyl ar dir Cymru."
Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn cael ei glymu am byth i sicrhau mai yng Nghymru y bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal.
Ychwanegodd ei fod wedi derbyn llawer o gefnogaeth, yn lythyrau, galwadau ffôn, sgyrsiau ar y maes a chymeradwyaeth.
Trafodaethau pellach
Mi fydd swyddogion yr Eisteddfod yn gobeithio y bydd aelodau'r llys yn gwrthod y cynnig er mwyn cadw opsiwn Lerpwl yn fyw.
Cyn y cyfarfod fe fydd bwrdd rheoli'r Eisteddfod yn cyfarfod i drafod be fydd eu hargymhelliad nhw i aelodau'r Llys.
Un ffactor i'w hystyried fydd y trafodaethau hefo Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gynllun ariannu newydd.
Mae'r Eisteddfod yn gobeithio y bydd yna benderfyniad ynglŷn â hynny erbyn diwedd mis Medi.
Yn wyneb hynny fe allai'r bwrdd rheoli argymell gohirio penderfyniad ddydd Gwener.
Ond yr hyn sydd lawer tebycach o ddigwydd ydi y bydd y Bwrdd yn gofyn caniatad aelodau'r Llys i wneud popeth posib i geisio cynnal Gŵyl 2007 yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.