John Gwilym Jones: Cofiadur newydd yr Orsedd
|
Gallai cytundeb ag awdurdodau lleol Cymru i ariannu'r Brifwyl yn flynyddol achosi problemau yn y dyfodol, meddai Cofiadur newydd yr Orsedd.
Dywedodd y Parch John Gwilym Jones, a gafodd ei ethol yn Gofiadur yng nghyfarfod Bwrdd yr Orsedd ddydd Iau, y dylai cymhorthdal yr Eisteddfod ddod o gronfa ganolog.
Mae'r Cofiadur yn gweithredu fel ysgrifennydd i'r Orsedd gan gydlynu gwaith y gwahanol swyddogion o fewn yr Orsedd.
Mae Mr Jones, sy'n Brifardd ac a fu'n Archdderwydd rhwng 1992-95, yn olynu Jâms Nicholas sydd wedi rhoi'r gorau i'r swydd.
Mae swyddogion yr Eisteddfod wedi bod yn trafod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ers Medi 2004 ynglŷn ag ariannu'r Brifwyl.
Un o gynigion y gymdeithas yw bod yr awdurdodau lleol yn cyfrannu swm penodol o arian bob blwyddyn i gynnal yr Eisteddfod.
'Trysor canolog'
Ar y maes ddydd Iau dywedodd Cofiadur newydd yr Orsedd ei fod yn credu "mai o gronfa ganolog yn y diwedd y dylai cymhorthdal yr Eisteddfod ddod.
"Dwi'n argyhoeddedig os yw'r cronfeydd canolog sydd gan y cynulliad yn gallu rhoi miliynau i wahanol agweddau o ddiwylliant yng Nghymru, er enghraifft y cwmni opera, yna fe ddylen nhw gofio fod yr iaith yn drysor mwy canolog o lawer i'n bywyd fel cenedl," meddai.
"Gallai symudiad presennol i geisio cael llywodraethau lleol Cymru i ymrwymo i dalu yn flynyddol godi problemau mewn blynyddoedd i ddod pe bai rhai yn optio allan o'r cytundeb gan adael y gweddill i ysgwyddo'r baich."
Dywedodd fod y Prifardd Jâms Nicholas wedi llywio'r Orsedd mewn cyfnod allweddol.
"Dwi'n cerdded i mewn i ffrwyth ei lafur ac mae wedi gosod yr Orsedd ar seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol," meddai.
Daw'r Parch John Gwilym Jones yn wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn ond mae'n byw ym Mangor ers bron i 40 o flynyddoedd ac yn weinidog yng nghapel Pendref y ddinas.
Mae'n aelod o'r Orsedd wedi iddo ennill y Gadair yn Eisteddfod 1981 ym Machynlleth.