BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2005, 11:44 GMT 12:44 UK
Wyddfa: Mwy o amser
Cynlluniau ar gyfr y caffi newydd
Rhaid casglu'r arian erbyn diwedd mis Medi

Bydd mwy o amser i gasglu arian ar gyfer codi adeilad a'r gopa'r Wyddfa.

Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chymdeithas Eryri fod dyddiad cau ApÍl y Copa wedi ei newid.

Y dyddiad cau yw diwedd Medi 2005 i gasglu arian ar gyfer adeilad fydd yn cynnwys canolfan ymwelwyr.

Er i £7.3m gael ei gasglu gan y sector breifat a chyhoeddus mewn egwyddor, mae angen £1.7m cyn i'r prosiect fynd yn ei flaen.

Swyddfa Arian Ewrop Cymru oedd wedi gosod y dyddiad cau gwreiddiol, Mehefin 30, 2005.

'Yn ddiolchgar'

Caffi presennol yr Wyddfa
Mae'r caffi presennol dros 70 mlwydd oed

"Rydym unwaith eto yn hynod o ddiolchgar i Swyddfa Arian Ewrop Cymru a'r Cynulliad am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad yn ein helpu ...," meddai prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips.

"Mae'n golygu y gallwn ni barhau i weithio at gwblhau'r cynllun."

Yn ystod yr wythnos mae ymwelwyr i'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyfrannu at yr apÍl.

Prif nod Cymdeithas Eryri, sy'n gweinyddu'r apÍl, yw gwarchod a gwella Eryri gyda'r awdurod.

"Mae'r ymateb wedi bod yn bositif gan bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma," meddai Dan James, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymdeithas Eryri.

"Mae sawl busnes wedi dod yn rhan o'r ymgyrch ac mae amser o hyd i gyfrannu."




HEFYD:
ApÍl yr Wyddfa £1.7m yn brin
30 Meh 05 |  Newyddion
Argyfwng apÍl yr Wyddfa
05 Meh 05 |  Newyddion
Wyddfa: Hwb i'r apÍl
05 Mai 05 |  Newyddion
Cydweithio i gael caffi ar y copa
26 Maw 05 |  Newyddion
Caffi'r Wyddfa: ApÍl ryngwladol
16 Maw 05 |  Newyddion
Hwb o £3m i gaffi'r Wyddfa
14 Hyd 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^