BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 24 Chwefror 2006, 16:14 GMT
Plaid Cymru: 'Llanw'n troi'?
Ieuan Wyn Jones
Ieuan Wyn Jones: 'Angen agwedd newydd at wleidyddiaeth '

Ar ddiwedd cynhadledd wanwyn bydd arweinwyr Plaid Cymru â delwedd newydd yn gobeithio fod lle i fod yn fwy optimistaidd.

Bu'r pum mlynedd ddiwethaf yn "anodd" a lleihaodd nifer y pleidleiswyr ers 1999 ond mae'r arweinwyr yn gobeithio fod systemau a phobl newydd yn golygu bod y llanw'n troi.

Mae gan y blaid uned ymgyrchu a chyfarwyddwr ymgyrchu newydd ac erbyn diwedd y gynhadledd ddydd Sul yng Nghaerfyrddin dylai fod wedi penderfynu pwy fydd yr arweinydd swyddogol.

Y disgwyl yw mai Ieuan Wyn Jones, arweinydd y blaid yn y cynulliad, fydd yn arweinydd swyddogol dair blynedd wedi iddo ildio'r awenau.

Ei nod fydd nid dim ond datrys problemau mewnol ond cychwyn "cyfnod mwy positif" yng ngolwg y cyhoedd.

'Newid'

"Mae angen i araith yr arweinydd apelio at gynrychiolwyr y gynhadledd a'r cyhoedd," meddai cyn y gynhadledd.

"Bydda i'n dweud fod y Blaid yn y broses o newid - logo newydd a delwedd newydd.

"Ond mae angen i ni fod yn fwy sylweddol na hynny, mae angen agwedd newydd at wleidyddiaeth ac adennill ymddiriedaeth yr etholwyr."

Triban Plaid Cymru
Bydd y triban yn cael ei ddisodli

Mae'r blaid wedi gollwng y triban, ei logo ers 70 mlynedd, symbol hynaf unrhyw blaid yng ngwledydd Prydain.

Cafodd y logo ei gomisiynu yn 1933 a'i gynllunio gan Richard Huws ac roedd yn darlunio gwerthoedd pwysig y blaid, hunanlywodraeth, ffyniant economaidd a ffyniant diwylliannol.

Mae'r blaid wedi mabwysiadu pabi melyn yn lle'r triban.

Comisiynau

Hefyd mae'r gair "Cymru" wedi ei ollwng o deitl y blaid wrth iddi geisio ehangu ei hapêl.

Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd polisïau newydd yn cael eu datgelu wedi i gomisiynau polisïau adrodd yn ôl.

A bydd y blaid yn portreadu ei hun fel yr unig ddewis i Lafur.

"Maen nhw'n anelu at hyrwyddo delwedd plaid sy ddim o angenrheidrwydd yn newydd ond un sy'n newid ac yn gwrando ar anghenion yr aelodau a'r cyhoedd," meddai'r sylwebydd gwleidyddol y Dr Non Gwilym.

Mae'n debyg y bydd y blaid yn ymosod ar record llywodraeth Rhodri Morgan, yn enwedig y methiant i roi gofal personol am ddim i'r anabl.

Bydd yn ceisio hawlio clod am nifer o gonsesiynau, gan gynnwys ffïoedd dysgu myfyrwyr.

Dywedodd yr arweinyddiaeth mai'r nod fyddai bod yn wir blaid Sosialaidd Cymru ac apelio at drwch y boblogaeth.

Ond os yw'r Blaid Geidwadol yn ennill tir, mae'n bygwth statws Plaid Cymru fel yr wrthblaid swyddogol ym Mae Caerdydd.




HEFYD:
Plaid yn cefnu ar logo 70-oed
24 Chwef 06 |  Newyddion
Plaid yn lansio logo sain
23 Chwef 06 |  Newyddion
Llywydd wedi ei ddewis yn ymgeisydd
17 Chwef 06 |  Newyddion
Jones i 'fod yn arweinydd'
16 Chwef 06 |  Newyddion
Plaid am ganfod barn etholwyr
12 Ion 06 |  Newyddion
Plaid: 'Angen tro pedol'
31 Hyd 05 |  Newyddion
Iwan: Am weld 'geni' plaid newydd
17 Medi 05 |  Newyddion
Unwch neu golli, medd arweinydd
16 Medi 05 |  Newyddion
Wigley: Rhybudd i'w blaid
15 Medi 05 |  Newyddion
Plaid: 'Y ffordd ymlaen'?
16 Mai 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^