Charles Clarke: Am uno heddluoedd Cymru
|
Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Cartref, Charles Clarke, orfodi heddluoedd Cymru i uno.
Roedd Mr Clarke wedi rhoi tan ddydd Gwener i'r pedwar awdurdod heddlu gytuno i uno'n wirfoddol, ond mae'r pedwar wedi gwrthod y cynlluniau.
Awdurdod Heddlu Gwent oedd yr olaf i benderfynu nad oedd o blaid uno ddydd Iau.
Roedd Awdurdod Heddlu'r De ac Awdurdod Heddlu'r Gogledd eisoes wedi dweud na fydden nhw'n fodlon uno'n wirfoddol a dywedodd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys yr un peth ddydd Llun.
Mae Mr Clarke wedi dweud mai uno'r pedwar llu yng Nghymru yw ei hoff opsiwn a'i fod am weithredu ei gynllun hyd yn oed os na fydd yr heddluoedd yn cytuno.
O dan y ddeddfwriaeth bresennol fe all Mr Clarke orfodi'r uno ei hun os nad yw awdurdodau'r heddlu'n cytuno i uno'n wirfoddol.
Mae Mr Clarke wedi dweud wrth yr awdurdodau ei fod yn bwriadu dechrau'r broses honno ar Fawrth 1.
Yna bydd cyfnod ymgynghori o bedwar mis i roi cyfle i'r cyhoedd, awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad i leisio barn.
'Rhuthro'
Dywedodd Awdurdod Heddlu Gwent ddydd Iau nad oedd ganddo'r wybodaeth i wneud penderfyniad a bod materion o hyd i'w trafod am gostau sefydlu, cyllid ac amddiffyn plismona lleol.
Cyn y cyfarfod dywedodd cadeirydd yr awdurdod, Geraint Price-Thomas, fod pryder am gyllid a bod y broses wedi ei rhuthro.
"Y tro diwethaf roedd newidiadau mawr i ddulliau plismona yng Nghymru fe gymrodd bron i bum mlynedd," meddai.
Mae 'na anfodlonrwydd am y cynllun uno
|
"Dydyn ni ddim wedi cael ymateb i'n pryderon ac felly ni fyddwn yn cytuno i uno'n wirfoddol."
Penderfynodd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ddydd Llun nad oedd o blaid uno yn wirfoddol.
A phleidleisiodd Awdurdod Heddlu'r Gogledd yn erbyn cynllun Mr Clarke wythnos yn ôl wedi i'r Prif Gwnstanbl, Richard Brunstrom, ddweud wrthyn nhw y bydden nhw'n "wallgof i gytuno rwan".
"Rydych chi'n haeddu atebion i gwestiynau yr ydych chi wedi eu codi, a dydych chi ddim wedi eu cael," meddai
Dywedodd Awdurdod Heddlu'r Gogledd fod angen cadw'r "llinellau cyfathrebu" â'r Swyddfa Gartref ar agor o hyd.
Dywedodd cadeirydd Awdurdod Heddlu'r De, Ray Thomas, na allen nhw "neidio'n ddall at uno" hyd nes y byddai cwestiynau am bwy fyddai'n ysgwyddo'r baich ariannol wedi eu hateb.
'Rhy fach'
Ond mae Barbara Wilding, Prif Gwnstabl Heddlu'r De, wedi dweud ei bod o blaid uno gan ei fod yn "gwneud synnwyr yn llwyr".
Cyhoeddwyd cynlluniau ailstrwythuro'r 43 llu yng Nghymru a Lloegr ym mis Medi pan ddywedodd Arolygiaeth yr Heddlu nad oedd strwythur yr heddlu yn addas.
Dadl llywodraeth San Steffan yw bod unrhyw lu â llai na 4,000 o swyddogion yn rhy fach i ddelio â therfysgaeth a throseddau trawsffiniol.
Ychydig dros 3,300 o blismyn sydd gan Heddlu'r De, ac mae llai na 2,000 o blismyn yn gweithio i bob un o'r tri llu arall yng Nghymru.
Mae gwrthbleidiau'r Senedd a'r cynulliad wedi rhybuddio y gallai'r uno fod yn "ergyd i drethdalwyr".
Yr wythnos ddiwethaf dangosodd amcangyfrif gafodd ei ryddhau gan Lywodraeth y Cynulliad y gallai trethi yn ardal Heddlu'r De godi 17% os oedd yna un heddlu yng Nghymru.