BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2005, 10:03 GMT 11:03 UK
Tlws Cerddor i Christopher
Christopher Painter
Christopher Painter: Enillydd Tlws y Cerddor

Christopher Painter o Gaerdydd sydd wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau.

Gofynnwyd am gyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer cyfuniad o rhwng tri ac wyth o offerynnau a gymer rhwng 8 a 12 munud i'w berfformio.

Yn ogystal â derbyn y tlws, rhodd Urdd Cerddoriaeth Cymru eto eleni, mae Christopher yn derbyn £500 sy'n cael eu rhoi gan Glwb Rotari Caernarfon.

Mae ysgoloriaeth gwerth £2,000 yn cael ei chynnig gan Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol.

Roedd 13 wedi cystadlu eleni a'r beirniaid oedd John Metcalf a Lynne Plowman.

'Lliwgar a meistrolgar'

Yn eu beirniadaeth dywedodd y ddau fod y gwaith buddugol, 'Yr Hanes Swynol.' yn "waith sy'n sefyll ar ei ben ei hun".

"Mae'n dechnegol sicr ac yn llawn dychymyg a syniadau cerddorol trawiadol," meddai'r feirniadaeth.

"Mae'n lliwgar, yn feistrolgar, ac wedi'i ysgrifennu'n dda ar gyfer yr ensemble."

Dywedodd y feirniadaeth fod y seiniau sy'n cael eu creu yn y darn "yn mynnu sylw ac er nad yw'n ddarn hawdd i'w chwarae, mae'r anawsterau wedi'u cloriannu'n fwriadus ac o fewn cyrraedd offerynwyr proffesiynol da".

Mae Mr Painter, a gafodd ei eni ym Mhort Talbot, yn diwtor rhan-amser ar gyfansoddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Oriana Publications.

Bu'n arweinydd Cerddorfa Siambr Richmond a Gweithdy Opera Abertawe.

A bu'n astudio cyfansoddi gydag Alun Hoddinott ac ar gyrsiau Samuel Adler yn Efrog Newydd a Marek Stachowski yn Warsaw.

Astudiodd arwain gydag Edward Gregson a Christopher Adey.

Cymrodoriaeth

Mae wedi bod yn Gyfansoddwr mewn Cysylltiad ag Ensemble Cymru ac yn Gyfansoddwr Preswyl gyda Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru a Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.

Yn 1988 enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd ac yn 1997 enillodd Wobr Cyfansoddwr Cymru Gregynog.

Dyfarnodd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau Gymrodoriaeth iddo yn 2003.

Ar hyn bryd mae Mr Painter yn gweithio ar gyfansoddiad ar gyfer Cerddorfa Thueringen yn Yr Almaen.

Teitl y gwaith yw 'Forest of Dreams' ac fe fyddan nhw'n ei berfformio gyda'r arweinydd Cymreig, Alun Francis, yn Ionawr 2006.

Fe yw ysgrifennydd Urdd Cerddoriaeth Cymru ac mae'n aelod o Cyfansoddwyr Cymru.





ERYRI A'R CYFFINIAU 2005

O'R MAES

GAN CYMRU'R BYD

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

ORIELAU

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^