Mae Sue Massey yn dod o Ellesmere Port yn wreiddiol
|
Sue Massey gafodd ei dewis yn Ddysgwr y Flwyddyn eleni mewn seremoni yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.
Yn enedigol o Ellesmere Port mae Ms Massey bellach yn byw ym Mhenmaenmawr, Gwynedd.
Derbyniodd dlws a gwobr o £300
Roedd Ms Massey eisiau cyfathrebu gyda'i ffrindiau a chael hwyl yn gymdeithasol.
Dyna pam yr aeth ati i ymuno â dosbarthiadau lleol er mwyn dysgu'r iaith.
"Doeddwn i ddim yn gwybod be i ddweud pan wnes i ennill," eglurodd.
"Roedd pobl eraill yn y gystadleuaeth yn rili ffantastig.
"Fyddwn i ddim yn hoffi bod yn un o'r beirniaid."
Dysgodd Ms Massey Gymraeg yn y brifysgol ym Mangor a drwy'r iaith a'r band pres y gwnaeth gyfarfod gyda'i gŵr.
Ysbrydoliaeth
Roedd hi'n un o bedwar ymgeisydd oedd wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol.
Cafodd y pedwar eu dewis o blith tua 20 o geisiadau gwreiddiol.
Gwanwyn Bartlett a Baudewijn Morgan oedd dau o'r cystadleuwyr
|
Derbyniodd y tri arall £100 yr un.
Mae'r dysgwyr llwyddiannus yn hanu o bob cwr o Gymru a thu hwnt, ac mae cymhellion gwahanol gan bob un dros gydio yn y Gymraeg.
"Mae bod yng nghwmni ymgeiswyr Dysgwr y Flwyddyn bob amser yn ysbrydoliaeth," medd Meleri Williams, Swyddog y Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
"Mae'r pedwar cystadleuydd yn hwyliog ac yn frwdfrydig iawn dros y Gymraeg."
Y tri arall oedd Robert Hughes o Reading a oedd yn awyddus i fagu ei deulu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'n byw ym Meddllwynog ger Merthyr Tudful ac yn athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Tredegar.
Mae gan Baudewijn Morgan ddiddordeb cynhenid mewn ieithoedd ac roedd yn teimlo rheidrwydd i ddysgu'r Gymraeg.
Bwriad Robert Hughes yw magu ei deulu drwy gyfrwng y Gymraeg
|
Yn gweithio i Adran Gyllid Ewropeaidd Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae hefyd yn gwirfoddoli i Fenter Iaith Conwy.
Y pedwerydd ymgeisydd yw Gwanwyn Bartlett sy'n athrawes yn Ysgol Gynradd Gendros yn Abertawe.
Gan ei bod yn awyddus i ddysgu Cymraeg fel ail iaith i'w disgyblion penderfynodd fynd ati i feistroli'r iaith ei hunan.
Mae hi bellach yn aelod o Ferched y Wawr ac yn canu yng nghôr Tawe.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Emyr Davies, Glenys Leach a Margaret Roberts.